Mwy nag erioed yn defnyddio canolfan chwaraeon y campws

Frank Rowe, Cyfarwyddwr y Brifysgol Canolfan Chwaraeon.

Frank Rowe, Cyfarwyddwr y Brifysgol Canolfan Chwaraeon.

06 Mawrth 2012

Mae Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn dathlu blwyddyn lwyddiannus ar ôl darganfod fod ffigurau cyfranogi wedi cynyddu 90% ar gyfer dosbarthiadau ymarfer corff (Ffit-Rhwydd) o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Nid yn unig y mae'r myfyrwyr yn gwneud gwell defnydd o'r cyfleusterau sydd ar gael ond hefyd y gymuned leol, sydd yn mynychu mwy o ddosbarthiadau a mynd i'r gampfa yn amlach.

Mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn fenywod sy'n cael eu denu at y dosbarthiadau ymarfer corff gyda'r dosbarth dawns Zumba yn ffefryn amlwg, wedi'i ddilyn yn agos gan hyfforddiant cylchol a bodyfit.

Mae Frank Rowe, Cyfarwyddwr y Brifysgol Canolfan Chwaraeon, yn egluro, "Rydym wrth ein bodd gyda'r ffigurau hyn a bod y myfyrwyr, staff a'r gymuned yn cadw'n heini ac yn iach drwy wneud y defnydd gorau o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael.

"Mae'n ddiddorol nodi hefyd bod nifer y menywod sydd yn cadw'n heini wedi codi'n sylweddol. Mae hyn lawr i lu o wahanol ffactorau sy'n cynnwys gallu cadw’n heini mewn amgylchedd diogel, mynd i ddosbarth gyda ffrind neu grŵp a’i droi i mewn i achlysur cymdeithasol yn hytrach na bod yn faich. "

Mae nifer y bobl sy'n gwneud defnydd o'r gwasanaeth hyfforddiant personol sydd ar gael ar y campws hefyd wedi cynyddu'n sylweddol gan 70% dros yr un cyfnod, sy'n dangos fod pobl yn buddsoddi mwy o amser ac arian i mewn i’w ffitrwydd.

Ychwanegodd Frank, "Mae pobl yn gwybod fod manteision corfforol, meddyliol ac iechyd ynghlwm ag ymarfer corff yn ogystal â'r manteision cymdeithasol sy’n cael ei feithrin a chreu cyfeillgarwch. Os ydych am brofi'r wefr dros eich hun - rydym ar agor saith niwrnod yr wythnos ac yn cael sesiynau o ben bore tan yn hwyr yn y nos.”

AU4912