Hwb ariannol i Orllewin Cymru.
06 Mawrth 2012
Mae menter £12m i helpu busnesau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd i weithio mewn ffordd mwy cynaliadwy wedi cael hwb gan yr UE.
Bydd prosiect Rhwydwaith WISE (Sefydliad Amgylcheddau Cynaliadwy Cymru), dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Phrifysgolion Bangor ac Abertawe, yn cefnogi cwmnïau i wneud gwaith ymchwil a datblygu i ddatblygu cynhyrchion ‘gwyrddach’ a hybu twf busnesau.
Bydd y cynllun yn cefnogi ystod o fusnesau sy’n cynnig arbenigedd mewn meysydd fel datblygu deunyddiau adnewyddadwy i’w defnyddio mewn cynhyrchion a gwella effeithlonrwydd gwasanaethau o ran adnoddau, gan helpu i leihau’u hôl-troed ecolegol.
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi â £6.6m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Llywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian gan y prifysgolion dan sylw.
Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd:
“Rydyn ni’n helpu i sicrhau bod cyllid yr UE mor effeithiol â phosibl er budd pobl, busnesau a’r amgylchedd. Mae rhaglenni 2007–2013 wedi galluogi prosiectau’r UE i helpu 82,000 o bobl i ennill cymwysterau a 34,400 o bobl i gael gwaith, gan greu dros 10,500 o swyddi a 2,150 o fentrau.
“Mae’r cynllun hwn yn enghraifft arall o sut gall prosiectau’r UE gefnogi busnesau, eu helpu i fod yn fwy cystadleuol a darparu nwyddau a gwasanaethau mewn ffordd sy’n gwarchod ein hamgylchedd, gan gyflawni’n huchelgais ni ac uchelgais UE 2020 i greu economi carbon isel a thwf deallus, cynaliadwy a chynhwysol.”
Mae ystod o weithgareddau’n debygol o ddechrau drwy’r prosiect fel helpu cwmnïau i wneud eu prosesau gweithgynhyrchu, cynhyrchion a phecynnau yn fwy effeithlon ac effeithiol o ran cost, a defnyddio mwy o ddeunyddiau adnewyddadwy mewn nwyddau a gwasanaethau masnachol.
Croesawodd yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Rhwydwaith WISE, y cyhoeddiad, gan ychwanegu:
“Rydyn ni’n falch iawn bod cyllid yr UE ar gael i gefnogi’r gwaith hwn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu a gwella’r berthynas gyda busnesau yn yr ardal Gydgyfeirio. Mae’r prifysgolion yn y bartneriaeth yn frwdfrydig dros ben am gydweithio gyda chwmnïau lleol. Bydd y cwmnïau’n gallu cael arbenigedd gorau’r prifysgolion i ddatblygu’n gynaliadwy, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfnewid gwybodaeth gyda nhw.”
Gall busnesau sy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am y prosiect anfon e-bost i info@wisenetwork.org
AU5112