Caniatâd ar gyfer preswylfeydd newydd ar dir fferm Penglais

05 Mawrth 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o gadarnhau fod Caniatâd Cynllunio Amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl newydd i ddarparu llety ar gyfer hyd at 1,000 o fyfyrwyr wedi ei roi gan Gyngor Sir Ceredigion.

Fe fydd y preswylwyr newydd yn cael eu lleoli ar  dir fferm Penglais, tir sydd yn union wrth ymyl Pentre Myfyrwyr Jane Morgan sydd wedi ennill sawl gwobr, ac hefyd o fewn pellter cerdded hawdd o brif Campws Penglais a’u gyfleusterau.

Mae'r Brifysgol ar hyn o bryd yn ymgymryd â'r camau olaf yn y broses gystadleuol OJEU i ddylunio, adeiladu, ariannu a gweithredu’r datblygiad gyda’r dau gyfranogwyr sy'n weddill, sef Consortiwm Miller a Balfour Beatty. Y dyddiad targed ar gyfer gwaith adeiladu i gychwyn yw hwyr 2012, ac ar gyfer deiliadaeth myfyriwr ym mis Medi 2014. Disgwylir fod y costau adeiladu yn dod i tua £40 miliwn.

Dywedodd James Wallace, Cyfarwyddwr Newydd Prosiect Llety ym Mhrifysgol Aberystwyth “Rydym wrth ein bodd gyda'r newyddion bod caniatâd cynllunio wedi'i ganiatau. Mae'r prosiect hwn yn cynrychioli elfen strategol bwysig y Brifysgol i ddarparu profiad preswyl rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr. Bydd y datblygiad yn cynnwys ystafelloedd hunan-arlwyo astudio sengl a fflatiau stiwdio sydd wedi’i cynllunio i gyrraedd disgwyliadau myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.”

AU4712