Cyfweliadau cyflym
Cyflogwyr cyfweld cyflym: Chwith i’r dde (rhes gefn) Martin Koffer, Cambrian Printers, Kimk Warlow o Fwrdd Iechyd Hywel Dda, Matthew Tench o Benseiri Dilwyn Roberts a Dylan Jones o Pugh Computers; (rhes flaen) Sian Furlong-Davies o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, Helen Ford o Network Rail, James Drew o Benseiri Dilwyn Roberts a Carolyn Parry, hefyd o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.
01 Mawrth 2012
Mynychodd gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sydd yn pontio y trydydd sector ynghyd â’r sector gyhoeddus a phreifat, sesiwn cyfweld cyflym yn y Brifysgol i helpu myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn i ddatblygu eu hyder ac i wella eu dealltwriaeth ar sut i roi cyfweliad da.
Esboniodd Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaeth Gyrfaoedd gyda chyfrifoldeb am gyfleoedd cyflogadwyedd, “Rydym yn deall fod y farchnad swyddi yn un anodd a chystadleuol iawn ar hyn o bryd am swyddi intern a graddedig. Rydym yn awyddus i roi pob cyfle i’n myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau gyda chyflogwyr ac i lwyddo gyda’i dyheadau gyrfa.
“Mae hwn yn gyfle gwych iddynt gael profiad cyfweliad go iawn mewn amgylchedd diogel a chael adborth yn syth gan ystod eang o recriwtwyr profiadol gan gynnwys tîm o Network Rail.”
“Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth barhaol rydym yn ei gael gan y cyflogwyr yma i weithio gyda ni i ddatblygu sgiliau'r myfyrwyr fel hyn. Roedd rhai ohonynt yn defnyddio’r cyfle i adnabod talent ac roedd cyfle hefyd i rwydweithio gyda chynrychiolwyr y cwmnïau yn ystod ac ar ôl y sesiynau.”
Yn gweithredu ar fodel speed-dating, roedd y myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan yn cael eu cyfweld am ddau funud ac yna’n cael adborth o 30 eiliad gan y cyflogwyr, fydd yn eu galluogi i adeiladu dealltwriaeth gyflym o wahanol dechnegau ac arddull cyfweld. Roedd dros 60 o fyfyrwyr wedi cofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad yma.
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn gweithio ar draws y Brifysgol i alluogi ac ymrymuso unigolion i ddynodi a gweithio at gyflawni potensial eu gyrfa. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn cynorthwyo ac yn annog cydweithwyr a chyflogwyr i ymwneud â gweithgareddau a chyfleoedd cyflogadwyedd sy'n ysbrydoli myfyrwyr a graddedigion er mwyn iddynt ddatblygu’r sgiliau, dealltwriaeth, profiad, cymeriad a meddylfryd sydd eu hangen i lwyddo yn eu gyrfa yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.aber.ac.uk/careers