Ein Byd yn Symud
24 Chwefror 2012
Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg - 13-15 o Fawrth 2012
Bob mis Mawrth mae Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn dwyn i’n sylw sut mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn berthnasol i’n bywydau bob dydd ac yn gymorth i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr drwy gyfrwng gweithgareddau hwyliog.
Mae Gŵyl Wyddoniaeth dri diwrnod yn cael ei threfnu gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2012. Dyma ddathliad mwyaf Cymru a’r Deyrnas Gyfunol o bopeth sydd yn ymwneud â gwyddoniaeth a pheirianneg.
Eisoes mae mwy na 1000 o ddisgyblion ysgol o Geredigion, Powys a Gwynedd wedi trefnu i fynychu arddangosfa “Ein Byd yn Symud” sydd yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth 13eg, dydd Mercher 14eg a dydd Iau 15fed Mawrth yn y Gawell Chwaraeon ar gampws Penglais y Brifysgol.
Yn ogystal mae trefnwyr y digwyddiad wedi estyn gwahoddiad cynnes i aelodau o’r cyhoedd i fynychu’r sesiwn ar brynhawn Mercher fydd ar agor tan 6 hyr hwyr. Oriau agor ddydd Mawrth a dydd Iau fydd 9.30 y bore tan 3 y prynhawn.
Bydd arddangosfeydd rhyngweithiol o adrannau gwyddoniaeth y Brifysgol (Mathemateg a Ffiseg, Cyfrifiadureg, Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Bioleg, yr Amgylchedd a Gwyddorau Gwledig a Gwasanaethau Gwybodaeth) a Chyngor Sir Ceredigion, y Ganolfan Dechnoleg Amgen a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Dywedodd trefnydd y digwyddiad Roger Morel; “Nod ‘Ein Byd yn Symud’ yw arddangos y gwaith gwyddonol gwych sydd yn cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn ffordd a fydd yn ysbrydoli ac yn ennyn brwdfrydedd pobl, ac yn eu cymell i ehangu eu gwybodaeth wyddonol, ei fwynhau a deall pa mor bwysig ydyw yn ein bywydau.”
Trefnir ‘Ein Byd yn Symud’ gan Y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cysyllter â Roger Morel am ragor o wybodaeth 01970 621890, wpsi@aber.ac.uk.
Mae Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg http://www.britishscienceassociation.org/web/nsew/ yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Gwyddoniaeth Prydain (The British Science Association) ac yn cael ei chynnal o ddydd Gwener 9fed tan ddydd Sul 18fed Mawrth.
AU4012