Croesawu canfyddiadau ymchwiliad mewnol

23 Chwefror 2012

Mae ymchwiliad mewnol i ystod o weithgareddau masnachol a gweithredol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dod i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth o dwyll na llygredd mewn perthynas â'r materion a ymchwilwyd, er mae'n amlwg fod yna fethiannau o ran dilyn y gweithdrefnau priodol. 

Cafodd canfyddiadau Adroddiad Ymchwiliad Prifysgol Aberystwyth eu cyflwyno i aelodau o staff y Brifysgol ar ddydd Mercher 22 Chwefror gan yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon.

Mewn anerchiad i staff, dywedodd yr Athro McMahon:
“Rhoddais yr ymchwiliad hwn ar waith gan fy mod i’n credu bod sawl maes yn y Brifysgol yr oedd angen eu gwella. Mae’r gwaith hwn ar ben erbyn hyn, ac mae Adroddiad Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn nodi’r meysydd y mae angen i’r Brifysgol fynd i’r afael â nhw. Mae’n dda gennyf ddweud nad yw’r tîm ymchwilio wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o dwyll na llygredd mewn perthynas â'r materion a ymchwilwyd.

“Wrth dderbyn canfyddiadau’r ymchwiliad, gallwn yn awr weld beth sydd angen ei wneud a gofynnaf i’m cydweithwyr i gyd yn awr ganolbwyntio ar geisio dod o hyd i atebion adeiladol.

“Rhoddwyd rhai newidiadau ar waith eisoes; bydd cydweithwyr yn sylwi ar y newidiadau i drefn y pwyllgorau a’r ffaith bod ein harferion adrodd yn ôl yn fwy agored. Hyderaf y bydd modd inni, gyda’n gilydd, adeiladu ar ein seiliau cadarn a pharhau i ddatblygu Prifysgol Aberystwyth a’n gwaith o safon fyd-eang: ein dysgu, ein hymchwil a’r profiad rydym yn ei roi i’n myfyrwyr.

Ychwanegodd yr Athro McMahon: “Carwn roi teyrnged benodol i’r holl staff sydd wedi rhoi amser a chymorth wrth gynorthwyo’r tîm ymchwilio. Ers cychwyn yr ymchwiliad hwn ym mis Hydref 2011, mae’n amlwg iawn bod y staff a’r myfyrwyr yn hoff iawn o’u Prifysgol ac mae’n ddymuniad amlwg a diffuant ganddynt fod y Brifysgol yn mynd o nerth i nerth.”

Cyhoeddodd y Brifysgol ar y 3ydd o Hydref 2011 fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i ystod o weithgareddau masnachol a gweithredol a ddaeth i’r amlwg yn sgil adolygiad o ystadau’r Brifysgol. Cafodd yr ymchwiliad gymorth gyfrifwyr fforensig Deloitte LLP a’r cwmni o gyfreithwyr Eversheds LLP.

AU3812