Dyfodol Plismona yng Nghymru

Dr Timothy Brain.

Dr Timothy Brain.

20 Chwefror 2012

Mae’n amser datganoli plismona yng Nghymru i ofal Llywodraeth y Cynulliad yn ôl cyn Prif Gwnstabl Swydd Gaerloyw, Dr Timothy Brain.
 
Bydd Dr Brain yn cyflwyno’r ddadl dros ddatganoli plismona mewn darlith wadd yn Narlith Flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig a drefnir gan Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau'r 23ain o Chwefror. Cynhelir y ddarlith am 7yh yn ystafell C22 yn Adeilad Hugh Owen yn y Brifysgol.

Dywedodd Dr Brain: “Efallai fod y penderfyniad i ddatganoli plismona yn un doeth pan ddechreuodd datganoli, ond gydag aeddfediad Llywodraeth Cymru, sydd fel y gwyddom yn gofalu am bethau pwysig fel iechyd ac addysg, nid oes unrhyw reswm bellach dros beidio â datganoli’r heddlu hefyd.”

“Nid oes hygrededd bellach i’r dadleuon yn erbyn gwneud hyn. Mae Lloegr a Chymru’n rhannu’r un system gyfreithiol, ond nid yw hynny’n unrhyw fath ar reswm digonol i beidio â datganoli plismona, yn enwedig ers i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ymwahanu oddi wrth y Swyddfa Gartref. Mae cydlyniad diogelwch cenedlaethol yn bwysig, ac felly hefyd gydweithrediad a chydweithio ar draws y ffin, ond gellid gwneud hynny trwy adael rhywfaint o bwerau elfennol yn nwylo’r Swyddfa Gartref.

“Gydag ymrwymiad y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol at ‘fynd yn lleol’, pam ddylai pobl Cymru gael llai o berchnogaeth ar ddulliau plismona na phobl Jersey, Guernsey, neu Ynys Manaw, heb sôn am Yr Alban, lle mae plismona wedi bod yn fater datganoledig o’r cychwyn?

“Ond beth fyddai’r buddiannau i Gymru, pe datganolir plismona? Yn gyntaf, mae Aelodau o’r Llywodraeth Gymreig yn fwy lleol, o’u hanfod, ac mae ganddynt well dealltwriaeth ar anghenion a disgwyliadau plismona lleol. Yn ail, dewis democrataidd. Mae gan bobl Cymru’r hawl syml i gael mwy o lais wrth drafod rhywbeth mor greiddiol â phlismona.”

Dywedodd yr Athro Noel Cox, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg: “Rwy’n falch iawn o gael croesawi Dr Brain i draddodi darlith flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig. Mae dyfodol heddlua yng Nghymru yn gyffrous ac heriol, ac mae’n fraint i ni gael clywed persbectif  rhywun mor brofiadol.”

Roedd Dr Timothy Brain yn Brif Gwnstabl ar Swydd Gaerloyw rhwng 2001 ac Ionawr 2010, wedi iddo wasanaethu cyn hynny yn Avon a Gwlad yr Haf, Hampshire, a Chanolbarth Gorllewinol Lloegr. Efe oedd arweinydd cenedlaethol yr ACPO (Association of Chief Police Officers) ar gyllid ac arweiniodd sawl gweithgaredd uchel eu proffil, yn nodedig ymateb Swydd Gaerloyw i’r llifogydd mawrion yn 2007.

Y mae’n siaradwr, ysgrifennwr, a darlledwr cyson ar ystod eang o bynciau plismona yn cynnwys dyfodol yr heddlu, arweinyddiaeth strategol, cyllid, a hanes yr heddlu. Mae ganddo Ddarlithyddiaethau Ymweld ym Mhrifysgol Caerloyw a Phrifysgol y South Bank yn Llundain, deil gymrodoriaeth er anrhydedd ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth, ac y mae’n LLD er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerloyw. Y mae’n Drysorydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth. Cyhoeddwyd ei lyfr, A History of Policing in England and Wales from 1974 ym mis Mawrth 2010.

AU3712