Gwobr Wy-ch i Brifysgol Aberystwyth
Tony Burgess, perchennog Wyau Birchgrove gyda Jeremy Mabbutt, Pennaeth Gwasanaeth Croeso, Prifysgol Aberystwyth.
16 Chwefror 2012
Rhoddir Gwobr Wyau Da i arlwywyr sy’n gofalu eu bod yn prynu wyau a chynnyrch wyau gan adar di-gaets.
Meddai Jeremy Mabbutt, Pennaeth y Gwasanaethau Croeso: “Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn dod o hyd i gyflenwyr bwyd lleol, lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mae gennym bolisi prynu bwyd moesol a chynaliadwyedd cynhwysfawr sy’n gosod ystyriaethau amgylcheddol, iechyd a chynaliadwyedd wrth galon pob penderfyniad a wneir wrth brynu.
“Rydym yn hynod falch ein bod wedi ennill y wobr hon gan ei bod hi’n cydnabod ein hymrwymiad i sicrhau bod ein hwyau yn bodloni anghenion ein cwsmeriaid o ran ansawdd a blas yn ogystal â’n hymrwymiad i sicrhau bod yr wyau a brynir yn cael eu cynhyrchu i safonau lles a chynaliadwyedd uchel.”
Mae Prifysgol Aberystwyth yn prynu tua 96,000 o wyau bob blwyddyn, bob un ohonynt gan gynhyrchydd wyau arobryn a leolir tua 9 milltir o’r Brifysgol, Wyau Birchgrove.
Meddai Tony Burgess, perchennog Wyau Birchgrove: “ Mae holl wyau Birchgrove yn wyau maes ac yn dwyn gwarant cynllun Bwyd Rhyddid yr RSPCA sy’n sicrhau bod y safonau uchaf o ran lles, glendid ac arferion amgylcheddol mewn lle ac yn cael eu monitro. Rydym yn falch iawn fod y Brifysgol wedi ennill y wobr hon gan fod hyn yn dangos ei hymrwymiad i brynu cynnyrch wyau o’r safon uchaf yn ogystal â chefnogaeth i fusnes lleol.”
Dyma’r wobr ddiweddaraf i Wasanaethau Preswyl a Chroeso Prifysgol Aberystwyth sy’n cynnwys 2008 (Enillydd) Aur Gwir Flas Cymru Cynnyrch Cig – Cig Oen; 2009 (Enillydd) Aur Gwir Flas Cymru – Gwobr Datblygiad Cynaliadwy; 2009 Gwobr Arian Gwir Flas Cymru – Dosbarth Cig Coch (mân-gynhyrchydd); 2009 Gwobr Arian Gwir Flas Cymru – Dosbarth Menter Prynu’n Lleol; 2010 Rhestr Fer am Gyfraniad Eithriadol at Ddatblygu Cynaliadwy a 2011 Gwobr Arian Gwobrau Dewisiadau Iach Cymru Gyfan. Fe enillodd y Brifysgol hefyd statws Masnach Deg yn 2009.
AU1712