Penodiadau Newydd
Bydd Dr Martyn Powell, yn y llun, yn cymryd yr awennau fel Pennaeth Adran Hanes a Hanes Cymru oddi wrth yr Athro Phillipp Schofield ym mis Medi 2012.
16 Chwefror 2012
Cymeradwywyd penodiadau tri Phennaeth Adran a Dirprwy Ddeon y Gwyddorau newydd gan Gyngor Prifysgol Aberystwyth ar Ddydd Mawrth 7 Chwefror.
Penodwyd yr Athro Andrew Evans yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg. Penodwyd Dr Martyn J. Powell yn Bennaeth Adran Hanes a Hanes Cymru a Dr Joanne Thatcher yn Bennaeth Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae Dr Martin Wilding, Uwch Ddarlithydd yn y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg wedi ei benodi’r Dirprwy Ddeon y Gwyddorau.
Mae’r penodiad, ac eithrio Dr Martyn Powell, a fydd yn dechrau ar ei swydd newydd ar y 1af o Fedi 2012, yn weithredol yn syth.
Yr Athro Andrew Evans, BSc, PhD (Cymru), CPhys, MInstP.
Cafodd yr Athro Andrew Evans ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth a Phrifysgol Caerdydd lle y derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg a doethuriaeth o dan arolygaeth yr Athro R.H. Williams FRS.
Fe’i penodwyd i ddarlithyddiaeth yn Aberystwyth yn 1997, yn uwch ddarlithydd yn 2002 ac yna i gadair mewn ffiseg deunyddiau yn 2006.
Mae’n arbenigo mewn deunyddiau sydd yn seiliedig ar garbon (moleciwlau organig a diemwnt) a’u nodweddion wrth ddefnyddio golau, electronau, pelydr x ac ymbelydredd syncrotron.
Ar hyn o bryd mae’r Athro Evans yn cadeirio’r consortiwm y Deyrnas Gyfunol sydd yn datblygu cyfleuster pelydr x meddal newydd yn Diamond Light Source, mae’n gadeirydd Pwyllgor Llywio Fforwm Optoelectroneg Cymru, a chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Uwch Ddyfeisiadau a Deunyddiau Gweithredol.
Dr Martyn J. Powell, BA PhD (Cymru), FRHistS
Derbyniodd Dr Martyn J. Powell raddau israddedig ac uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu’n darlithio ym Mhrifysgol Nottingham cyn dychwelyd i Aberystwyth i gymryd swydd barhaol.
Mae’n arbenigwr ar hanes gwleidyddol a chymdeithasol Iwerddon ac mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys Britain and Ireland in the Eighteenth-Century Crisis of Empire (Palgrave, 2003), The Politics of Consumption in Eighteenth-Century Ireland (Palgrave, 2005), Piss-Pots, Printers and Public Opinion in Eighteenth-Century Dublin (Four Courts, 2009), Clubs and Societies in Eighteenth-Century Ireland (Four Courts, 2010) (edited with James Kelly), a nifer o erthyglau a thraethodau.
Ef yw golygydd cyffredinol y cyfnodolyn amlddisgyblaethol dwyieithog Eighteenth-Century Ireland/Cumann Éire san Ochtú Céad Déag.
Yn 2012 fe fydd yn gymrawd ymweld yng Ngholeg y Drindod Dulyn, lle bydd yn ymchwilio i hanes cynnar dyled yn Iwerddon.
Dr Joanne Thatcher BA (Hons) PhD (Cymru)
Mae Dr Joanne Thatcher yn raddedig o Brifysgol Bangor lle derbyniodd ddoethuriaeth mewn Seicoleg Ddatblygiadol Chwaraeon.
Mae Dr Thatcher yn Gymrawd Cysylltiol Cymdeithas Seicolegol Brydeinig, Seicolegydd Siartredig, Gwyddonydd Chwaraeon Achrededig BASES ac yn Gadeirydd Bwrdd Cymhwyster mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Mae wedi cyhoeddi ymchwil mewn cyfnodolion rhyngwladol a chenedlaethol ac yn gyd-olygydd ar yr ail argraffiad o Coping and Emotion in Sport (Routledge), ac yn gyd-awdur Sport and Exercise Science, Sport and Exercise Psychology (Learning Matters) a Sport Psychology (Palgrave Macmillan).
Dr Martin Wilding, BSc, PhD (Edinburgh), MInstP, FGS
Graddiodd Dr Martin Wilding ym 1986 o Goleg Addysg Uwch Swydd Derby, fel ag yr oedd yn cael ei adnabod bryd hynny, a derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Caeredin yn 1990.
Bu’n wyddonydd ymweld yn Bayerishes Geoinsitut ym Mhrifysgol Bayreuth cyn symud i’r Unol Daleithiau lle bu’n wyddonydd ymweld yng ngrŵp thermocemeg yr Athro Navrosky ym Mhrifysgol Princeton ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Davis, California.
Bu’n gyfarwyddwr ymchwil yng Nghanolfan Ymbelydredd Niwclear McClellan tan 2005 pan gafodd ei benodi i ddarlithyddiaeth yn Sefydliad Mathemateg a Ffiseg ac yna uwch ddarlithyddiaeth yn 2008.
Mae’n ymchwilio i strwythur a nodweddion strwythur-berthnasol gwydr, deunyddiau a hylifau crisialog, yn arbennig o dan bwysau a thymheredd eithafol. Mae’n defnyddio technegau diffreithiant pelydr x a niwtronau pwerus mewn canolfannau ymchwil cenedlaethol yn y Deyrnas Gyfunol a’r Unol Daleithiau.
AU2012