Creu eich Swydd eich Hun

Tom Burmeister, Swyddog Cymorth Myfyrwyr, Urdd y Myfyrwyr, Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Tony Orme, Rheolwr Menter y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori.

Tom Burmeister, Swyddog Cymorth Myfyrwyr, Urdd y Myfyrwyr, Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Tony Orme, Rheolwr Menter y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori.

14 Chwefror 2012

Beth sydd gan hebogydd, datblygwr meddalwedd, golygydd cylchgrawn arobryn a chyn sgriptiwr Hollyoaks yn gyffredin? 

Yr ateb syml yw eu bod i gyd wedi dewis creu eu swyddi eu hunain ac wedi adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus mewn amrywiaeth eang o sectorau. Ond y tu ôl i’r cyswllt cyffredinol hwn, bydd trafodaeth Prifysgol Aberystwyth ‘Creu eich Swydd eich Hun’ ar 21 Chwefror yn cynnig cyfle i chi glywed mwy am y sgiliau a’r nodweddion sydd, yn ôl y panel hwn, wedi eu helpu i lwyddo yn eu dewis fentrau.

“Rydym ni’n gwarantu trafodaeth anffurfiol a bywiog” esboniodd Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Gyrfaoedd, “Gyda llai o swyddi ar gael ar hyn o bryd, mae’n gwneud synnwyr i ystyried creu eich swydd eich hun drwy sefydlu busnes rhan amser neu lawn amser. Efallai fod gennych chi ddiddordeb eisoes mewn menter a hunangyflogaeth, neu efallai eich bod wrthi’n meddwl am opsiynau gyrfa at y dyfodol, felly dyma eich cyfle i holi i bobl â meddyliau mentrus beth sydd ei angen arnoch chi i lwyddo.

“Yn gynyddol, mae cyflogwyr yn dymuno gweld sgiliau entrepreneuraidd a phobl sydd â meddylfryd mentrus ymysg eu gweithwyr. Felly beth bynnag yw eich dewis o lwybr gyrfa mae datblygu sgiliau megis annibyniaeth; y gallu i weld cyfleoedd; parodrwydd i berchnogi mentrau; datrys problemau'n greadigol; y gallu i rwydweithio a thrafod ac awydd i gyflawni yn eich gosod chi ben ac ysgwydd uwchlaw’r gweddill."

Bydd staff menter y Brifysgol yn ymuno â’r drafodaeth, a gaiff ei harwain gan y panel o bedwar entrepreneur sy’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau (bywyd gwyllt / gwyddoniaeth, cyfrifiadura, cyhoeddi a theledu):
• Layla Bennett, Hawksdrift Falconry, a lwyddodd i ddenu £50k yn rhaglen Dragon’s Den y BBC
• Karl Doody, 27stars, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr cwmni datblygu meddalwedd sydd wedi gweithio gyda brandiau corfforaethol megis Coca Cola a Google.
• Lucy Gough, dramodydd hunangyflogedig sydd wedi ysgrifennu ar gyfer y theatr, radio a theledu (gan gynnwys Hollyoaks).
• Ed Pereira , Pear Media, golygydd cylchgrawn arobryn, cyflwynydd teledu a chyn Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn.

Esboniodd Tony Orme, Rheolwr Menter y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori “Bydd pawb sy'n dod yn cael y cyfle i gyflwyno cwestiynau i'r panel unwaith iddynt gofrestru ar gyfer y digwyddiad a bydd, wrth gwrs, digon o gyfleoedd ar y noson i ymuno yn y drafodaeth."

Cofrestru:
Cofrestrwch heddiw arlein www.aber.ac.uk/crisalis neu drwy ebost: crisalis@aber.ac.uk / ffôn 01970 622203.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am y digwyddiad ar ein tudalen digwyddiad facebook ac ymunwch yn y drafodaeth ar twitter ar #AUcreateyourjob.

Trefnir y digwyddiad hwn ar y cyd gan y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, Y Gwasanaeth Gyrfaoedd ac Urdd y Myfyrwyr ac mae’n rhan o raglen Cymorth Menter a Gyrfaoedd a gynigir i fyfyrwyr a graddedigion Aberystwyth.

Aelodau’r panel
Layla Bennett – Sylfaenydd a Pherchennog, Hawksdrift Falconry  - Sicrhaodd Layla fuddsoddiad o £50k yn rhaglen Dragon’s Den y BBC yn 2010 ac enillodd ‘Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Busnes Powys 2009.
Karl Doody - Rheolwr Gyfarwyddwr, 27stars - Karl yw sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr 27stars, cwmni datblygu meddalwedd sydd wedi gweithio gyda busnesau o bob maint, o fusnesau newydd un person i’r brandiau corfforaethol mwyaf megis Coca Cola a Google. 
Lucy Gough - Dramodydd Hunangyflogedig - Mae Lucy wedi ennill ei bywoliaeth fel awdur llawrydd, yn ysgrifennu i'r theatr, radio a theledu (gan gynnwys Hollyoaks) ers deunaw mlynedd ... ac yn brawf bod modd gwneud bywoliaeth mewn galwedigaeth o'r fath.
Ed Pereira - Cyfarwyddwr, Pear Media - Golygydd cylchgrawn sydd wedi ennill llawer o wobrau a chyn Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn. Ed yw Cyfarwyddwr cwmnïau cylchgrawn a dosbarthu Pear, mae’n gyflwynydd teledu rhyngwladol, yn ymgynghorydd entrepreneuriaeth ac yn ymgynghorydd i’r Llywodraeth.

Cymorth Menter yn Aberystwyth
Fel rhan o’r cymorth Cyfnewid Gwybodaeth a gynigir gan y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, mae’r Tîm Menter yn helpu myfyrwyr, graddedigion a staff i droi syniadau da yn fusnesau hyfyw drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor hyfforddiant a mynediad at ofod a chyllid.
Ar y cyd â’r gwasanaethau gyrfaoedd mae’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori hefyd yn hyrwyddo hunangyflogaeth fel dewis gyrfa i israddedigion.

Cymorth Gyrfaoedd yn Aberystwyth
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn gweithio ar draws y Brifysgol i alluogi ac ymrymuso unigolion i ddynodi a gweithio at gyflawni potensial eu gyrfa. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn cynorthwyo ac yn annog cydweithwyr a chyflogwyr i ymwneud â gweithgareddau a chyfleoedd cyflogadwyedd sy'n ysbrydoli myfyrwyr a graddedigion er mwyn iddynt ddatblygu’r sgiliau, dealltwriaeth, profiad, cymeriad a meddylfryd sydd eu hangen i lwyddo yn eu gyrfa yn y dyfodol.

Urdd Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Mae Cyflogadwyedd a Sgiliau’n thema graidd sy’n estyn ar draws popeth sy'n digwydd yn yr Urdd. Drwy gefnogi amrywiaeth o glybiau, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli allgyrsiol, a hyd yn oed ymglymiad â’r broses ddemocrataidd ei hun, mae’r Urdd yn darparu gwell cyflogadwyedd drwy’r sgiliau trosglwyddadwy y mae myfyrwyr yn eu dysgu drwy ymwneud â’r gweithgareddau hyn.

AU3112