‘Arwyr a Dihirod’

Rhai o’r cymeriadau sydd yn ymddangos yn ‘Arwyr a Dihirod’.

Rhai o’r cymeriadau sydd yn ymddangos yn ‘Arwyr a Dihirod’.

13 Chwefror 2012

Bydd criw o fyfyrwyr o’r Ysgol Gelf yn rhedeg cyfres o weithdai yn rhad ac am ddim yn ystod Hanner Tymor mis Chwefror yn Amgueddfa Ceredigion.

Rhoddir thema arbennig i bob dydd, a bydd pob thema’n ymateb i stori wahanol sy’n dathlu dychymyg y Fictoriaid, gan gynnwys Alice in Wonderland, Peter Pan a Hanesion Tylwyth Teg y Brodyr Grimm.

Agorir yr wythnos, sy’n dwyn y teitl ‘Arwyr a Dihirod’, gyda Gemau Fictoraidd ar yr 11eg o Chwefror. Bydd gweithdai celf yn rhedeg ddwywaith y dydd rhwng y 13eg a’r 18fed o Chwefror.  Bydd amrywiaeth eang yn y gweithdai, o gelf ‘pop-yp’ papur a gwehyddu i brintio ffabrig, a byddant yn addas i blant o bob oedran.

“Llynedd crëwyd y “Fforwyr Arfordirol” yn ystod yr wythnos hon, ac roedd yn llwyddiant ysgubol,” dywedodd Jen Loffman myfyrwraig Hanes celf yn ei thrydedd flwyddyn. “Eleni bydd y “Fforwyr Arfordirol” yn eu holau, yn fwy ac yn well fyth.”

“Trefnir gwisg ffansi, llawer o weithgareddau hwyliog, a bydd Adroddwr Stori yn rhan o’r gweithgareddau y tro hwn.

“Mae croeso i bawb i ddod i gwrdd â Gwraig y Straeon wrth iddi chwilio o gwmpas yr Amgueddfa am wrthrychau coll. Cewch wrando hefyd ar yr Adroddwr Stori am 1yh bob dydd o’r wythnos yn adrodd ei hanesion lu.

“Mae’r Amgueddfa’n le gwych i gael hwyl, ac mae Casgliad Ceredigion yn berffaith gan ei fod yn llawn gwrthrychau rhyfeddol a gyflwynwyd gan deuluoedd Fictoraidd go iawn o Aberystwyth.

“Bydd yr wythnos hon yn gyfle gwych i bawb i ryngweithio â’r casgliad. Ceir yn y casgliad oriawr poced fel un y Gwningen Wen, troell fel un Rumpelstiltscin, a llawer, llawer mwy. Mae’r Amgueddfa yn le gwych i ddiflannu i fyd eich dychymyg.”

Dyma gynllun yr wythnos:

Gweithdai Bore: 10.30yb – 12yp              Gweithdai Prynhawn: 2yp - 3.30yp

Adroddwr Stori: 1yp

Sadwrn 11 - Gemau Fictoraidd
Llun 13 - Pop-Yp Alice in Wonderland
Mawrth 14 - Rhoddion Dydd San Ffolant gydag Eira Wen
Mercher 15 - Gwehyddu Rumplestiltscin
Iau 16 - Cerflunwaith Plastisin gyda Hansel and Gretel
Gwener 17 - Pypedau Cysgod Peter Pan
Sadwrn 18 - Paentio Ffabrig gydag Olifer Twist

Er mwyn archebu’ch lle mewn gweithdy ffoniwch Amgueddfa Ceredigion ar 01970 663088. Cwtogir ar niferoedd i 15 i bob sesiwn.

AU2212