Campau Aber-Bangor

Capteiniaid y Campau o Brifysgol Aberystwyth gyda thlws y bencampwriaeth.

Capteiniaid y Campau o Brifysgol Aberystwyth gyda thlws y bencampwriaeth.

10 Chwefror 2012

Bydd Pencampwriaeth Rhyng-Brifysgol Aberystwyth-Bangor yn gweld 30 o dimau’n cystadlu mewn 32 o ornestau, mewn nifer o gampau - o octopush ac ultimate frisbee i gampau mwy traddodiadol fel rygbi, pêl-droed, tenis bwrdd a ffensio.

Hyd yma, y tîm cartref sydd wedi ennill bob blwyddyn yn y bencampwriaeth hon, sydd bellach yn ei phumed flwyddyn. Prifysgol Aberystwyth yw deiliaid tlws 2011 wrth iddynt deithio i Fangor i geisio ennill pencampwriaeth Rhyng-Brifysgol 2012.

Dywedodd Alun Minifey, Swyddog Gweithgareddau Prifysgol Aberystwyth: “Bydd tua 400 o fyfyrwyr yn teithio o Aberystwyth i Fangor ddydd Sadwrn i gystadlu mewn amrywiaeth o ornestau chwaraeon. Bydd timau Aber yn anelu at gadw’u gafael ar dlws y bencampwriaeth, ac at gipio’r tlws oddi wrth y tîm cartref am y tro cyntaf erioed!

“Mae yna amrywiaeth o gystadlaethau a digwyddiadau rhyng-golegol yn cael eu trefnu rhwng prifysgolion Cymru drwy gydol y flwyddyn academaidd; serch hynny mae’r bencampwriaeth hon yn prysur ddod i fod yn un o’r mwyaf poblogaidd a’r mwyaf cystadleuol ohonynt!”

Dywedodd Ms Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff: “Mae gan Aberystwyth a Bangor berthynas waith gref, sy’n cael ei chryfhau ymhellach gan y Gynghrair Strategol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Er ein bod yn awyddus i barhau i ehangu a dyfnhau ein partneriaeth, sy’n cynnwys ystod o feysydd academaidd a gwasanaeth, hoffwn ddymuno pob lwc i dimau Aber yn ystod y cystadlaethau cyfeillgar hyn, ac rwy’n mawr obeithio y byddwn yn llwyddo i gadw tlws y Bencampwriaeth eleni!”

 AU1812