Darlith J B Willans
Yr Athro Timothy Ingold.
09 Chwefror 2012
Bydd yr Athro Timothy Ingold, Athro Anthropoleg Gymdeithasol yn Adran Anthropoleg Prifysgol Aberdeen, yn traddodi Darlith Gyhoeddus J B Willans ar y 13 o Chwefror, 2012, yn Sinema Canolfan y Celfyddydau.
Testun y ddarlith fydd: ‘Catching dreams and making do: the imagination of real life.’
Bydd yr Athro Ingold yn archwilio’r berthynas, mewn bywyd dynol, rhwng dyluniadau’r dychymyg a gweithio gyda deunyddiau, gan ddadlau fod angen adfer y berthynas hon os ydym am ganfod dulliau mwy cynaliadwy i fyw.
Amser: 6 yr hwyr
Dyddiad: 13 Chwefror
Lleoliad: Sinema Canolfan y Celfyddydau
AU2912