Noson yng nghwmni’r Arglwydd Elystan Morgan
Yr Arglwydd Elystan Morgan.
09 Chwefror 2012
Nos Wener 10 Chwefror 2012, bydd yr Arglwydd Elystan Morgan yn rhannu ei brofiadau yn y Senedd yn San Steffan ac yn trafod y cwestiynau mawr sydd yn herio gwleidyddion ar lefel Brydeinig a Chymreig heddiw.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 5.30yh, gyda derbyniad gwin yng nghyntedd yr adeilad o 5.00 o’r gloch ymlaen.
Bu'r Arglwydd Elystan Morgan yn Aelod Seneddol dros Sir Aberteifi rhwng 1966-74, yn Weinidog yn y Swyddfa Gartref, ac yn Llywydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, rhwng 1997-2007.
Cynhelir y cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg ac fe ddarperir offer cyfieithu. Trefnir y cyfarfod hwn gan Gymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Aberystwyth (CWGA), ac mae croeso i bawb.
Am fanylion pellach cysylltwch ag Einion Dafydd (eed09@aber.ac.uk)
AU2412