Adran Ystadau Prifysgol Aberystwyth
08 Chwefror 2012
Yn sgïl adolygiad mewnol, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi cynlluniau heddiw, dydd Mercher 8 Chwefror, i ailstrwythuro’r Adran Ystadau.
Mae gan y Brifysgol gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ei hystadau er mwyn gwella profiad y myfyrwyr. Mae’r newidiadau sydd wedi eu cynnig yn adlewyrchu’r cynlluniau yma a’r angen am fwy o hyblygrwydd yn y ffordd y mae gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw yn cael eu darparu.
Mae’r Brifysgol yn awr yn ymgymryd â phroses ymgynghori â staff ac undebau llafur parthed y cynigion. Os bydd i’r ailstrwythuro fynd yn ei flaen fel y ragwelir ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn rhagweld y bydd 6 swydd yn diflannu.
Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Myfyrwyr a Staff: “Chwe mis yn ôl fe ddechreuodd y Brifysgol adolygiad o’r Adran Ystadau er mwyn ystyried ei siâp a’i chyfeiriad i’r dyfodol. Yn dilyn cwblhau’r adolygiad, mae’r Brifysgol yn cychwyn ar raglen o ailstrwythuro sydd wedi ei chynllunio er mwyn darparu gwasanaethau gwell.
“Mae’r Brifysgol yn dilyn o raglen o ymgynghori â staff ac undebau. Mae posib y bydd y newidiadau i arferion gwaith yn arwain at golli 6 swydd, rhywbeth yr ydym yn difaru yn fawr Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r effeithiau ar unigolion ac yn cynnig iddynt nifer o strategaethau cefnogi sydd eisoes yn bodoli, megis cynlluniau diswyddo gwirfoddol ac ymddeol yn gynnar.”
AU2812