Clefyd y Siwgr

Ronnie Maher, sydd yn dioddef o Glefyd y Siwgr, gyda Ffion Curtis o Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Ronnie Maher, sydd yn dioddef o Glefyd y Siwgr, gyda Ffion Curtis o Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

08 Chwefror 2012

Mae gwahoddiad i bobl sy’n byw yng nghanolbarth a gorllewin Cymru i gymryd rhan mewn astudiaeth newydd a phwysig ar glefyd y siwgr sydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ymchwilwyr yn Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff y Brifysgol yn chwilio am 150 o wirfoddolwr sy’n fodlon cymryd rhan mewn astudiaeth i’r berthynas rhwng diffyg fitamin D a chlefyd y siwgr math 2.

Maent yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr nad ydynt yn dioddef o glefyd y siwgr math 2 yn ogystal â rhai sydd yn dioddef ohono.

Disgwylir i’r gwirfoddolwyr ymweld â’r Adran dair gwaith dros gyfnod o 12 mis i ddarparu sampl gwaed ac i ateb cwestiynau am eu diet a’u ffordd o fyw.

Y mae corff cynyddol o ymchwil sy’n awgrymu fod cysylltiad rhwng lefelau isel o fitamin D, a achosir gan ddiffyg goleuni’r haul, a nifer o broblemau meddygol eraill.

Mor ddiweddar â diwedd Ionawr mynegodd y Prif Swyddog Meddygol dros Loegr bryder ynghylch y cynnydd yn y llechau (rickets) ymysg plant oherwydd diffyg mewn fitamin D. Mae prosiectau ymchwil eraill wedi awgrymu fod cysylltiad rhwng diffyg fitamin D â Sglerosis Ymledol (MS), iselder ysbryd, afiechyd cardiofasgwlaidd a chlefyd y siwgr math 1.

Bwriad yr astudiaeth yn Aberystwyth fydd sefydlu os oes cysylltiad rhwng lefelau isel o fitamin D a chlefyd y siwgr math 2.

Trefnir yr astudiaeth gan Ffion Curtis, aelod o’r grŵp ymchwil i Weithgaredd Corfforol tra’n Heneiddio, Adferiad ac Iechyd, ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae’r niferoedd o bobl sy’n dioddef o glefyd y siwgr math 2 yn cynyddu’n ddramatig ar draws y byd. Ar yr un pryd, mae ffyrdd pobl o fyw yn newid; maent yn treulio llai o amser allan yn yr awyr iach ac o ganlyniad yn gweld llai o oleuni’r haul, goleuni sy’n hanfodol i syntheseiddio fitamin D, neu ‘fitamin yr heulwen’ fel y gelwid ef gan rai,” dywedodd Ffion.

“Amcan ein hastudiaeth yw deall os yw diffyg fitamin D yn arwain at y ffaith fod mwy o bobl yn datblygu’r math hwn o glefyd y siwgr. Os gwelwn fod hyn yn wir, yna efallai y bydd yn ein galluogi ni i gynghori pobl sy’n dioddef o glefyd y siwgr math 2 ar sut i ddygymod â’r salwch heb orfod cymryd meddyginiaeth, trwy gymryd fitaminau ychwanegol neu trwy fwyta bwydydd sy’n llawn o fitamin D. Bydd hyn hefyd yn gymorth i bobl sydd mewn peryg o’i ddatblygu i’w osgoi yn y lle cyntaf,” ychwanegodd.

Un o’r cyntaf i wirfoddoli ar gyfer yr astudiaeth yw Ronnie Maher, sy’n byw yn Llanrhystud. Canfuwyd fod Ronnie yn dioddef o glefyd y siwgr math 2 bedair blynedd yn ôl ac fe’i anogwyd i ymuno â’r astudiaeth gan ei feddyg teulu.

“Mae’n wych medru cymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Dim ond hanner awr mae’n cymryd ond mae’n amser allai wneud gwir wahaniaeth,” dywedodd Ronnie.

“Dim ond wedi imi gael gwybod fy mod yn dioddef o glefyd y siwgr math 2 y sylweddolais i fod cymaint o bobl yn dioddef o’r afiechyd, ac mae’n bwysig iawn imi ein bod ni’n codi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n ei achosi. Cymryd rhan yn yr astudiaeth hon yw fy ffordd i o gynorthwyo ymchwilwyr i ddeall yr afiechyd yn well a gobeithio y bydd hyn o fudd i genedlaethau fy mhlant a’m hwyrion.”

Ariennir yr astudiaeth gan y rhaglen ‘Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS)’ a gefnogir gan y Gronfa Gyllid Gymdeithasol Ewropeaidd trwy raglen Cydweithrediad y Llywodraeth Gymreig, ac mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Dr Sam Rice, Ymgynghorydd Clefyd y Siwgr gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Os ydych chi am wirfoddoli ar gyfer yr astudiaeth, cysylltwch â Ffion Curtis ar 01970 622070 neu ar e-bost fic7@aber.ac.uk. Gellir canfod mwy o wybodaeth ar-lein hefyd ar http://www.aber.ac.uk/en/sport-exercise/research/health/diabetes/vitamind/.

Clefyd y Siwgr
(Ffynhonnell http://www.nhs.uk/Conditions/Diabetes-type2/Pages/Introduction.aspx)

Mae clefyd y siwgr yn effeithio ar 2.8 miliwn o bobl yn y Deyrnas Gyfunol (DG) a chredir fod miliwn ychwanegol o bobl yn dioddef o’r afiechyd yn ddiarwybod iddynt.

Yng Nghymru mae un ym mhob ugain oedolyn yn dioddef ac mae 10% o gyllid Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol y DG yn cael ei wario ar drin afiechydon sy’n codi yn sgil y cyflwr.

Mae clefyd y siwgr yn gyflwr hirdymor (cronig) a achosir gan ormodedd o fath penodol ar siwgr, glwcos, yn y gwaed.

Gan amlaf, rheolir faint o siwgr sydd yn y gwaed gan hormon o’r enw inswlin. Cynhyrchir inswlin gan y pancreas, chwarren sydd wedi’i lleoli y tu ôl i’r stumog. Pan dreulir bwyd ac aiff i mewn i lif y gwaed, symuda inswlin y glwcos allan o’r gwaed ac i mewn i’r celloedd, lle caiff ei dorri i lawr er mwyn cynhyrchu egni.

Gyda phobl sy’n dioddef o glefyd y siwgr, ni all eu cyrff dorri’r glwcos yma i lawr i mewn i egni. Digwydda hyn naill ai gan nad oes digon o inswlin i symud y glwcos, neu gan nad yw’r corff yn ymateb i’r inswlin sydd oddi fewn iddo.

Mewn 90% o achosion, clefyd y siwgr math 2 ydyw, a gellir ei reoli’n ar y dechrau trwy fwyta bwydlen gytbwys. Fodd bynnag, gan fod clefyd y siwgr math 2 yn gyflwr datblygol, gall cyfnod ddod lle bydd galw ar i’r claf gymryd moddion ar gyfer yr afiechyd (tabledi neu inswlin).

Cysylltir clefyd y siwgr math 2 yn aml â gordewdra. Cyfeirir at glefyd y siwgr a ddaw yn sgil gordewdra weithiau fel clefyd y siwgr sy’n cychwyn gyda thwf yr oedolyn, gan ei fod yn fwy cyffredin ymysg pobl hŷn.

Prifysgol Aberystwyth
Sefydlwyd yn 1872, mae Aberystwyth (www.aber.ac.uk <http://www.aber.ac.uk>) yn brifysgol sy’n arwain y ffordd mewn addysgu ac ymchwil, a dyfarnwyd iddi Wobr Cylchwyl y Frenhines am Addysg Uwch a Phellach yn 2009. Gosodwyd Aberystwyth yn gydradd 4ydd am ddedwyddwch myfyrwyr yn y DU, ac yn 1af yng Nghymru, ymysg prifysgolion preswyl yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn 2011. Mae Prifysgol Aberystwyth yn elusen gofrestredig Rhif. 1145141.

Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Mae Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (<http://www.aber.ac.uk/cy/sport-exercise>) yn darparu rhaglenni israddedig mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, yn ymchwilio i faterion ym myd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, ac yn darparu gwasanaethau ymgynghorol i unigolion a sefydliadau yng Nghymru a gweddill y DG. Hanfod Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yw’r dehongliad gwyddonol o sut mae’r corff dynol yn symud, yn ymarfer, ac yn cyflawni chwaraeon. Defnyddir gwyddorau biomecaneg, ffisioleg, a seicoleg i ddarparu dealltwriaeth ddamcaniaethol ar gyfer y dasg hon.

Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS)
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) (www.aber.ac.uk/en/ccs/business/initiatives/kess/) yn cefnogi prosiectau ymchwil cydweithredol wedi’u cysylltu â busnesau yn Ardal Gydweithredol Cymru. Darpara KESS gyllid sy’n galluogi myfyrwyr i weithio ar brosiectau ymchwil sy’n plethu eu meysydd arbenigedd academaidd ag anghenion ymchwil ym myd busnes. Mae partneriaid sy’n cymryd rhan yn gwneud cyfraniad o arian a chydweithrediad, a thrwy hynny, derbyniant fudd o ymchwil blaengar Prifysgol Aberystwyth.

Ariennir KESS yn rhannol gan Gronfa Gyllid Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy raglen Cydweithrediad yr Undeb Ewropeaidd a drefnir gan y Llywodraeth Gymreig.

AU1212