Llaeth iachach

Dr Michael Lee.

Dr Michael Lee.

27 Ionawr 2012

Mae ychwanegion porthiant naturiol at fwyd gwartheg er mwyn cynhyrchu llaeth premiwm iachus trwy’r flwyddyn wrthi’n cael ei ddatblygu yng Nghymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Yn ôl gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, gallai’r cynnyrch roi hwb ariannol i ffermwyr godro a gwneuthurwyr bwyd anifeiliaid.

Yn yr haf, mae gwartheg sy’n pori porfa ffres yn cynhyrchu llaeth sydd â lefelau uchel o asid brasterog annirlawn ond am eu bod yn cael eu bwydo â silwair ac ati yn y gaeaf, mae lefelau’r asid brasterog hwn yn gostwng yn sylweddol.

Mae manwerthwyr a defnyddwyr yn rhoi pwysau cynyddol ar ffermwyr i gynhyrchu llaeth iachach ac mae un siop adnabyddus eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn talu cymhellion i ffermwyr sy’n llwyddo i gynhyrchu llaeth sydd â lefelau penodol o fraster.

Ar hyn o bryd, gwneir hyn trwy ychwanegu olewau drud artiffisial i borthiant y gwartheg neu eu rhoi yn y llaeth. Ond, mae’r gwyddonwyr yn IBERS wedi darganfod cyfansoddion anweddol naturiol o fewn glaswellt sy’n dylanwadu ar fetaboleg braster yn y labordy a gellir ychwanegu hwn at borthiant gaeaf yr anifeiliaid.

Maent wedi datblygu ffordd o gynhyrchu’r cyfansoddion sy’n cael eu creu gan laswellt sy’n cael ei bori ac wedi profi eu bod yn effeithiol yn y labordy.  Y cam nesaf yw eu profi ar wartheg godro er mwyn gweld a yw hi’n bosibl ail-greu’r potensial i’r anifail gynhyrchu llaeth sydd â lefelau uchel o asidau brasterog annirlawn.

Mae tystiolaeth bod y brasterau annirlawn hyn yn gallu lleihau clefyd cardiofasgwlaidd a rhai canserau mewn pobl.

Dywedodd Dr Michael Lee, sy’n arwain y prosiect:  “Mae’r dechnoleg yr ydym wedi datblygu yn newydd, mae’n diwallu anghenion y diwydiant ac mae’n bosibl y bydd yn creu manteision economaidd i wneuthurwyr bwyd anifeiliaid, ffermwyr godro a manwerthwyr.”

Mae’r prosiect wedi cael £126,270 gan raglen A4B Llywodraeth Cymru fydd yn galluogi IBERS i ddilysu’r dechnoleg y mae wedi’i datblygu trwy dreialon maes.

Mae IBERS yn gweithio gyda thri phartner diwydiannol, gan gynnwys un o  archfarchnadoedd mwyaf y Deyrnas Unedig a gwneuthurwr bwyd anifeiliaid.

Rhaglenni Ewropeaidd: “Dyma enghraifft benigamp arall o ddiwydiant yn cydweithio ag addysg uwch er mwyn troi ymchwil yn gynnyrch masnachol sy’n hwb i’r cynhyrchydd ac yn gwella ansawdd y cynnyrch i’r defnyddiwr.

“Mae’r diwydiant amaethyddiaeth yn ddiwydiant sy’n elwa’n fawr ar ymchwil wyddonol felly rwy’n falch fod y prosiect A4B, sy’n cael ei ariannu gan Ewrop, yn annog cydweithio o’r math hwn.  Mae gan brosiectau fel hwn botensial gwirioneddol i greu manteision i sector fwyd Cymru ac rwy’n falch iawn bod cymorth ariannol Llywodraeth Cymru wedi helpu i ddatblygu’r prosiect.

Mae potensial gan y cynnyrch hwn i gael marchnad fawr yn y DU.  O’r holl laeth hylif a gynhyrchir yn y byd, yr Undeb Ewropeaidd a’r UDA sy’n yfed 30% ohono.  Erbyn 2020, rhagwelir y bydd llaeth hylif premiwm yn cyfrif am 25% o’r llaeth a werthir. 

Mae manteision ychwanegol i ddefnyddio llaeth premiwm i wneud cynhyrchion llaeth eraill fel menyn a chaws a bydd y rhain hefyd yn cael eu harchwilio.

AU1412