Hacio’r Iaith
26 Ionawr 2012
Y dechnoleg ddiweddaraf a’r iaith Gymraeg fydd dan sylw mewn cynhadledd flynyddol yn Aberystwyth dros y penwythnos.
Cynhelir y drydedd Hacio’r Iaith yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn 28 Ionawr 2012.
Mae’r gynhadledd yn gyfle i’r rheini sy’n frwd dros dechnoleg, y cyfryngau a’r iaith Gymraeg ymgynull a thrafod y datblygiadau diweddaraf.
Ymysg y pynciau dan sylw fydd newyddiaduraeth leol yn yr oes ddigidol, celf a diwylliant ar-lein, ymgyrchu, e-lyfrau, a datblygu meddalwedd rydd ar gyfer yr iaith Gymraeg.
Mae Hacio’r Iaith yn gynhadledd agored, sy'n golygu y gall unrhyw un gymryd rhan a siarad ar bwnc o'i dewis. Trefnwyd y gynhadledd mewn dull wici, sydd yn golygu y gwnaethpwyd y rhan fwyaf o’r gwaith gan ddefnyddio technoleg rhad ac am ddim.
Er mai yn Aberystwyth y bydd y digwyddiad, bydd modd ei ddilyn arlein – a chyfrannu o bell – drwy’r trydar #haciaith a thrwy weddarlledu.
Bydd cyfle hefyd i glywed recordio podlediad misol Yr Haclediad o flaen cynulleidfa fyw.
"Mae’r Adran wrth ei bodd yn croesawu’r wici-gynhadledd Hacio'r Iaith i Aberystwyth am y trydydd tro” meddai Elin Haf Gruffydd Jones.
“Mae’n enghraifft arbennig iawn o’r ffordd y gallwn ni fel Prifysgol gydweithio’n agos gyda phobl eraill sydd wrthi yn adeiladu’r we Gymraeg. Mae’n gyfuniad – academwyr, blogwyr, trydarwyr, myfyrwyr, datblygwyr meddalwedd, cynhyrchwyr cyfryngau a meddylwyr y byd arlein yn dod ynghyd.”
“Byddwn yn sicr o ddarganfod syniadau a phosibiliadau newydd ar gyfer y Gymraeg ar y Rhwngrwyd, a thrin a thrafod datblygiadau newydd,” meddai un o gydlynwyr Hacio'r Iaith, Rhys Wynne.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb sy'n ymwneud â'r iaith a thechnoleg i Aberystwyth ar Ionawr 28ain, gyda'u cliniaduron a llond trol o frwdfrydedd."
Cynhelir Hacio'r Iaith rhwng 9am a 7pm ar Ddydd Sadwrn Ionawr 28ain yn Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.
Mae noddwyr Hacio'r Iaith yn cynnwys Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth, Sbellcheck, NativeHQ, Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac S4C.
Ffurf anghynhadledd (unconference) fydd i Hacio'r Iaith, yn seiliedig ar ddigwyddiadau BarCamp, set o gyfarfodydd technolegol byd-eang. Ymysg y canllawiau, mynegir fod croeso i unrhyw un sydd â rhywbeth i'w gyfrannu neu awydd i ddysgu i ddod i ddigwyddiadau o'r fath, iddynt fod yn barod i rannu gydag eraill sy'n bresennol, a wedyn bod yn barod i rannu'r syniadau gyda'r byd ar ddiwedd y digwyddiad.
Croesawir cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg i Hacio’r Iaith, ond ffocws y digwyddiad yw’r defnydd o dechnoleg y we gan siaradwyr Cymraeg, drwy gyfrwng y Gymraeg ac hefyd ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Fideos o 2011:
Recordiad Yr Haclediad 2011: http://vimeo.com/28652923
AU1012