Archaeoleg a pherfformio
Yr Athro Mike Pearson
19 Ionawr 2012
Mae’r cynhyrchwr theatr canmoledig, Mike Pearson, sy’n Athro mewn Astudiaethau Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi derbyn Ysgoloriaeth Ymchwil Bwysig Ymddiriedolaeth Leverhulme.
Mae’r Athro Pearson yn aelod o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol, a bydd yn derbyn swm o £87,208 dros ddwy flynedd i ymgymryd â phrosiect sy’n dwyn yr enw: “Marking Time: Performance, Archaeology and the City”.
Fel cyn gyd-gyfarwyddwr Cwmni Theatr Brith Gof, yr Athro Pearson a gyfarwyddodd gynhyrchiad canmoledig Theatr Genedlaethol Cymru o Y Persiaid gan Aeschylus a lwyfannwyd yn y pentref hyfforddi milwrol ar Fynydd Epynt ym Mannau Brycheiniog yn Awst 2010.
Bydd cyllid Leverhulme yn cefnogi cyfres o weithgareddau ymchwil a digwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys y llunio o fonograff ac erthyglau i gyfnodolion ynghyd â threfnu teithiau tywysiedig, arddangosfeydd, gweithdai a hefyd ail-berfformiadau a pherfformiadau newydd a fydd yn olrhain gwreiddiau a datblygiad dulliau amgen ar lwyfannu theatrig o’r 1960au hyd heddiw mewn un ddinas benodol - Caerdydd.
Galluoga hyn i’r Athro Pearson fanteisio ar ei ddau ddiddordeb mawr - perfformio ac archaeoleg - er mwyn adfywio a gwerthfawrogi perfformiadau a dulliau ymarfer theatrig o’r 1960au a’r 1970au a’u lleoli nhw mewn cyd-destun ehangach, yn ddiwylliannol, yn wleidyddol, ac yn bensaernïol; tra’n myfyrio hefyd ar themâu fel newid dinesig a heneiddio personol.
Ei fwriad yw amlygu potensial y cyfuniad o astudiaeth ryngddisgyblaethol a phrofiad personol i addysgu ac i ehangu gwerthfawrogiad cyhoeddus ac academaidd o lefydd a pherfformiadau.
Dywedodd yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: 'Mae’r Brifysgol yn falch iawn o lwyddiant yr Athro Pearson a’r ffaith iddo dderbyn y wobr bwysig hon. Mae’n cadarnhau ei statws fel un o ddadansoddwyr mwyaf treiddgar Cymru o ddiwylliant perfformio yn ogystal â bod yn un o’i hymarferwyr mwyaf adnabyddus. Bydd ei fyfyrwyr â’i gydweithwyr yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael gweld canlyniadau’r prosiect pwysig hwn.”
Ar hyn o bryd, mae’r Athro Pearson yn gweithio ar gynhyrchiad newydd o Coriolanus ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru fel rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd 2012 y Cwmni Shakespeare Brenhinol. Mae’r Ŵyl yn rhan o Ŵyl Llundain 2012, sef craidd y dathlu diwylliannol sy’n cyd-fynd â Gemau Olympaidd Llundain.
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
http://www.aber.ac.uk/en/tfts/
 phroffil rhyngwladol ar draws pob un o'i disgyblaethau, mae'r Adran yn amlygu ymchwil ac astudiaethau o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol o fewn theatr, ffilm, perfformio a'r cyfryngau o fewn amgylchedd diwylliannol globaleiddiedig. Yn ôl canlyniadau’r asesiad ymchwil diweddaraf (2008), mae 60% o’r ymchwil a wnaed yn yr Adran yn safon sy’n ‘arwain y byd’ (4*) neu yn bodloni safonau ‘rhagoriaeth ryngwladol’ (3*). Yn ôl asesiad un o’r tablau uchaf ei barch, cynghrair ‘Power’ Research Fortnight, hi yw’r drydedd yng ngwledydd Prydain.
Yr Ymddiriedolaeth Leverhulme
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Leverhulme yn 1925 fel rhan o Ewyllys Is-iarll cyntaf Leverhulme. Dyma un o’r darparwyr mwyaf o gyllid ymchwil ar gyfer pob maes ym Mhrydain ac mae’n dosrannu o ddeutu £60 miliwn yn flynyddol. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau sydd yn cael eu cyllido gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ewch i’r wefan www.leverhulme.ac.uk
www.twitter.com/LeverhulmeTrust.