Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer GMY
![Mrs Liz Flint](/cy/news/archive/2012/01/liz-amended.jpg)
Mrs Liz Flint
04 Ionawr 2012
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi Mrs Liz Flint yn Gyfarwyddwr Newydd ar gyfer Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY).
Fel swyddfa Cyfnewid Gwybodaeth y Brifysgol, mae’r GMY yn darparu cyfrwng sy’n galluogi i sefydliadau allanol ryngweithio â’r Brifysgol. Mae’r adran yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, ynghyd â sefydliadau allanol, er mwyn hybu cyfleodd i gyfnewid gwybodaeth ac i gefnogi a datblygu partneriaethau masnachol.
Dywedodd Liz, wrth drafod ei swydd newydd, “Mae’n llawenydd mawr imi gael ymgymryd â’r swydd hon ar adeg pan mae cydweithrediad rhwng addysg uwch a busnes, ymrwymiad, ac impact ymchwil yn bynciau cynyddol bwysig. Mae gan Aberystwyth hanes dda o gydweithio gyda busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr i gryfhau a datblygu ein partneriaethau ym mydoedd busnes, diwydiant, a’r proffesiynau yn y dyfodol.”
Dywedodd yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn: “Yr wyf yn hynod o falch fod Liz wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr ar yr Adran Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, a dymunaf iddi bob llwyddiant wrth arwain yr Adran.”
Ymunodd Liz â’r Brifysgol yn 2006 fel Rheolwr Datblygiad Busnes ar gyfer y Rhwydwaith WISE (Y Sefydliad Cymreig dros Amgylcheddau Cynaliadwy), a gweithiodd ddiwethaf fel Cyfarwyddwr Dros Dro ar yr Adran GMY.
Mae Liz yn Beiriannydd Siartredig, a symudodd i fyd datblygu busnes prifysgol a chyfnewid gwybodaeth wedi 5 mlynedd o weithio fel peiriannydd mecanyddol, gan ganolbwyntio ar ymchwil a datblygiad, yn y diwydiant tyrbinau nwy yng Nghanolfan Dechnoleg Pŵer Alstrom. Cyn dod i weithio i Brifysgol Aberystwyth roedd ganddi swyddogaeth Datblygu Busnes ym Mhrifysgol Leicester.
Ar hyn o bryd mae Liz yn Ddirprwy Gadeirydd ar bwyllgor hyfforddi PraxisUnico a hefyd yn gyn Ddirprwy Gadeirydd ar Bwyllgor Adolygiad Proffesiynol IMechE.
AU30611