Apiau’r Brifysgol

20 Rhagfyr 2011

Mae Prifysgol Aberystwyth yn prysur sefydlu enw iddi ei hun ym maes datblygu apiau ar gyfer ffonau symudol.

Ym mis Mawrth 2011 dyfarnwyd gwobr Fast Forward a £30,000 i staff trosglwyddo technoleg yn Adran Gwasanaethau Masnacheiddio a Ymgynghorol y Brifysgol gan y Swyddfa Eiddo Deallusol am brosiect ar ddefnydd effeithiol o hawlfraint a nod masnach yn y farchnad am apiau o safbwynt y sector Addysg Uwch.

Yna ym mis Medi cynhaliodd y Brifysgol y gynhadledd gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i ddatblygwyr apiau ar gyfer yr iPhone a’r iPad a ddenodd mwy na 170 o gynadleddwyr o’r DG, Gwlad Belg, Sweden, Israel, Y Ffindir, Yr Iseldiroedd, Iwerddon a’r Unol Daleithiau.

Yn ogystal cynhaliodd y Brifysgol gystadleuaeth  - her apiau symudol 2011 - ar gyfer datblygwyr appiau ymysg staff a myfyrwyr.

Yr wythnos hon yn Guardian Professional mae Rhian Hayward yn amlinellu sut mae’r tîm yma yn Aberystwyth yn gweithio i wireddu gwerth masnachol technolegau ac arbenigedd y Brifysgol drwy’r farchnad am apiau.

http://www.guardian.co.uk/higher-education-network/2011/dec/19/mobile-apps-commercial-opportunity-universities?newsfeed=true

AU30711