Penodi Dirprwy Is-Ganghellor newydd
Yr Athro John Grattan
07 Rhagfyr 2011
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi’r Athro John Grattan i swydd Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb dros Ddysgu, Addysgu a Chyflogadwyedd.
Ymunodd yr Athro Grattan â Phrifysgol Aberystwyth yn 1995 pan cafodd ei benodi’n Ddarlithydd yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Yn ogystal â bod yn arbenigwr ym maes geoberyglon a llosgfynyddoedd, mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddaearegol Frenhinol, yn aelod arbenigol o’r Rhwydwaith Rhyngwladol Peryglon Iechyd Folcanig ac yn Brif Olygydd y Journal of Archaeological Science.
Penodwyd yr Athro Grattan yn Ddeon Gwyddoniaeth yn 2010 ac mae wedi bod yn ymwneud fwyfwy â rheolaeth strategol y Brifysgol.
Wrth siarad am y penodiad i rôl Dirprwy Is-Ganghellor, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rwy’n hynod falch y bydd John yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Ionawr fel Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb dros Ddysgu, Addysgu a Chyflogadwyedd. Mae hon yn rôl newydd bwysig yn yr uwch dîm, a grëwyd i gynorthwyo datblygiad ein myfyrwyr a’n staff, ac i gryfhau ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau a chyfleoedd ar gyfer graddedigion. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef dros y blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd yr Athro Grattan: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy mhenodi i’r rôl hon ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu ein darpariaeth dysgu ymhellach, a sicrhau bod ein graddedigion yn cael cefnogaeth drwy ddatblygu eu hastudiaethau academaidd ac ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Mynychais y brifysgol fel myfyriwr aeddfed, ac rwy’n credu’n gryf y dylai’r profiad newid bywydau pobl – fe newidiodd fy mywyd i!”
Bydd yr Athro Grattan yn cychwyn yn y swydd yn Ionawr 2012.