Perfformiad cyntaf o ‘The Forty’

Myfyrwyr yn perfformio 'The Forty' gan Howard Barker yn Theatr y Castell, Aberystwyth

Myfyrwyr yn perfformio 'The Forty' gan Howard Barker yn Theatr y Castell, Aberystwyth

07 Rhagfyr 2011

Yr wythnos hon bydd darlithwyr a myfyrwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cyflwyno’r perfformiadau cyntaf o gasgliad Howard Barker o ddramâu, The Forty.

Mae’r cynhyrchiad, a fydd yn cael ei berfformio yn Theatr y Castell rhwng 7-10 Rhagfyr, yn un o saith prosiect a arweinir gan ddarlithwyr ac ymarferwyr yn yr Adran gan fentora myfyrwyr blwyddyn olaf Drama a Theatr.

Bydd y dramodydd Howard Baker yn mynychu perfformiad dydd Iau ac fe fydd ef a chyfarwyddwr y ddrama, yr Athro David Ian Rabey, yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb cwestiynau yn y theatr ar ôl y perfformiad.

Esboniodd yr Athro Rabey, Athro Astudiaethau Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r cynhyrchiad hwn o The Forty yn dod â staff a myfyrwyr yr Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu ynghyd i berfformio ar gyfer un o’n Hathrawon er Anrhydedd.

Mae archwiliadau Barker o’r foment unigol a chyfyngiadau iaith yn llwyddo i greu crynodiad ffurfiol a phrydferthwch newydd yn The Forty - casgliad sy’n estyn tu hwnt hyd yn oed i uchelgais ei gasgliadau dramatig eraill, megis The Possibilities a 13 Objects, i gyflwyno deugain o ddramâu byrion, pob un yn canolbwyntio ar foment o densiwn emosiynol eithafol, gan roi sylw i’r ffyrdd mae geiriau ac arwyddion yn cynnig modd i drafod.

“Gwelwn nifer o’r cymeriadau yn The Forty mewn cyfnodau o argyfwng, pan maent wedi ‘cyrraedd pen eu tennyn'. Mae’r rhain yn naratifau eliptig, yn yr ystyr eu bod mor gywasgedig maent yn amwys: a ydynt yn cyflwyno rhagarweiniad, neu ganlyniad (neu’r ddau)?  

“Gwahoddir y gynulleidfa i ddychmygu ymhellach y tu hwnt, ar sail anghyflawnder gweithredol o ran gair a gweithred: ennyd dyngedfennol, a’r parodrwydd, y datgysylltu grymus, yr ymostyng llawn anobaith, neu’r difaterwch ysgytiol sy’n ei amgylchynu.”

Gellir prynu tocynnau ar gyfer y perfformiadau drwy ffonio Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 01970 623232 neu drwy’r wefan: www.aberystwythartscentre.co.uk