Dealltwriaeth iechyd
Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a Mr Trevor Purt, Prifweithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn arwyddo’r Memorandwm o Ddealltwriaeth.
28 Tachwedd 2011
Mae Prifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth a fydd yn hwyluso’r ffordd tuag at fwy o gydweithio ym meysydd ymchwil, datblygiad proffesiynol parhaus a darpariaeth o wasanaethau ar y cyd.
Mae’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd hefyd yn gweithio tuag at sefydlu Cadair Athrawiaethol mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin megis sut y mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn defnyddio gwasanaethau iechyd a chymorth, ac iechyd a lles cyffredinol.
Mae’r cytundeb newydd yn adeiladu ar gydweithio sydd eisoes yn bodoli rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ym maes ymchwil.
Mewn un prosiect o’r fath mae staff o Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff y Brifysgol, Ysbyty Cyffredinol Bronglais a Age Concern Ceredigion wedi bod yn edrych ar strategaethau i wella ansawdd bywyd oedolion hŷn sydd yn debygol o gwympo.
Mewn maes newydd o ymchwil bydd seicolegwyr o’r Brifysgol yn gweithio gyda’r elusen o Aberystwyth, Ffagl Gobaith, ar werthuso effeithiolrwydd offer tele-iechyd yn y cartref ar gyfer cleifion a gofalwyr. Mae’r offer yma yn galluogi cleifion i gael sgyrsiau wyneb yn wyneb gyda gofalwyr iechyd proffesiynol yn hytrach nag ar y ffôn.
Derbyniodd y ddau faes ymchwil yma gefnogaeth drwy gynllun Ygoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS), gyda chefnogaeth y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy raglen Cydgyfeirio Llywodraeth Cymru.
Bydd y cytundeb newydd hefyd cynnig cyfleoedd i feddygon iau yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais i fanteisio ar yr adnoddau astudio gwych sydd gan y Brifysgol i’w cynnig, a datblygu cyfleoedd ymchwil gydag adrannau academaidd.
Bydd myfyrwyr sydd yn dilyn cyrsiau gradd yn adrannau Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn elwa yn ogystal o ddarlithoedd a fydd yn cael eu traddodi gan feddygon o Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae yna bosibiliadau y bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn mabwysiadu’r dechnoleg sydd yn cael ei defnyddio gan y Brifysgol ar gyfer dysgu o bell a recordio darlithoedd ar gyfer darparu hyfforddiant parhaus i feddygol, fferyllwyr ac eraill sydd yn gweithio ym maes iechyd.
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Golyga natur wledig Canolbarth a Gorllewin Cymru fod Prifysgol Aberystwyth a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn wynebu heriau tebyg o ran darparu Gwasanaethau, a llawer i’w rannu o ran atebion er budd y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Bydd creu Cadair yn cynnig canolbwynt i ymchwil cymhwysol a fydd o fudd uniongyrchol i’r gymuned leol a’r boblogaeth ehangach, ar adeg o newid a her i wasanaethau gofal iechyd.”
Mae’r Memorandwm o Ddealltwriaeth gafodd ei arwyddo gan yr Athro April McMahon o Brifysgol Aberystwyth a Mr Trevor Purt, Prifweithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, am gyfnod dechreuol o 3 blynedd.
Enghreifftiau o waith ymchwil sydd yn cael ei wneud gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth ym maes iechyd a lles.
1. Astudiaeth o’r defnydd o dele-gofal er mwyn gwella anghenion seicolegol a lles i gleifion sydd yn derbyn gofal lliniarol a’u gofalwyr mewn ardal wledig.
Mae Dr Rachel Rahman o’r Adran Seicoleg mewn cydweithrediad gyda Dr Joanne Thatcher Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi dechrau ar gynllun newydd cyffrous eleni yn sgil cais llwyddiannus am gyllid gan y cynllun Ygoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS). Mae’r prosiect yn cael ei wneud ar y cyd gyda hosbis leol, Ffagl Gobaith, a bydd yn astudio effeitholrwydd pecyn tele-iechyd cartref ar gyfer gofal lliniarol mewn ardal wledig. Nod y pecynnau tele-iechyd cartref yw cynnig cyfle mwy cyson i gleifion mewn ardaloedd gwledig a’u gofalwyr a nyrsys arbenigol i gyfathrebu wyneb yn wyneb a chyfle i arbenigwyr asesu cleifion mewn ardaloedd gwledig cyn penderfynu a oes angen iddynt fynd i ysbyty. Nod y prosiect yw ymchwilio i effeithiolrwydd y pecynnau ar gyfer gwella anghenion seicolegol a lles cleifion sydd yn derbyn gofal lliniarol a’u gofalwyr yn ogystal â barn meddygon are u defnydd yn y cyd-destun hwn. Joseph Keenan fydd yn gweithio ar y prosiect 3 blynedd, gan iddo fod yn llwyddiannus wrth wneud cais am ysgoloriaeth ymchwil PhD.
2. Osgoi syrthiadau.
Dr. Samantha Winter a Dr. Joanne Thatcher, Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r Grŵp Ymchwil i Syrthio wedi bod yn weithredol ers Mai 2009 ac yn rhan o thema ymchwil Gweithgaredd Corfforol mewn Heneiddio, Ailsefydlu ac Iechyd o fewn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Ein nod yw adnabod yr elfennau o risg seicolegol, ffisiolegol a biomecanyddol sydd yn medru arwain at syrthiadau mewn pobl hŷn ac y mae modd eu haddasu drwy ymarfer corf ac ymddygiadau iechyd. Thema ganolog i’n gwaith ymchwil yw’r defnydd o raglenni ymarfer ar gyfer ailsefydlu ac osgoi syrthiadau. Mae llawer o dystiolaeth fod ymarfer i gryfhau a gwella cydbwysedd yn galluogi pobl hŷn i osgoi syrthio a chynnal ei symudedd a’u hannibyniaeth. Ond, mae darparu’r rhaglenni yma yn gallu bod yn anodd mewn ardaloedd gwledig. O’r herwydd rydym yn ceisio gwybod yn gywir pa fath o ymarfer corff sydd yn arwain at addasiadau a fydd yn galluogi pobl hŷn i osgoi syrthio. Er enghraifft, mae’n bwysig fod pobl yn magu cryfder corfforol a hyder yn eu gallu i symud o amgylch heb syrthio. Yn ogystal mae angen eu cymell i barhau gyda’u hymarferion ac i fod yn weithgar am gyfnod hir. Mae angen i ni wybod sut y gallwn ddarparu rhaglenni ymarfer yma mewn ardaloedd gwledig fel bod pobl hŷn yn llwyddo i wneud yr ymarfer angenrheidiol. Yn olaf mae gennym ni ddiddordeb mewn gwybod a yw ymyrraeth gynnar yn galluogi pobl i osgoi eiddilwch, ac felly rydym yn edrych ar y prosesau sydd yn rhan o heneiddio. Er enghraifft, rydym am wybod sut y mae newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn meddwl am eu hunain (hunaniaeth a hunan ganfyddiad) yn effeithio ar sut y maent yn gofalu am eu hunain ac a ydynt yn dewis ymarfer er mwyn osgoi syrthio. Rydym yn gweithio yn agos gyda Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, Gwasanaethau cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol megis Byrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr, Grŵp Syrthiadau Strategol Ceredigion, Age Concern Ceredigion a Cantref (Care and Repair Cymru), a Rhwydwaith Datblygu Ymchwil Pobl Hŷn a Heneiddio Cymru (OPAN).
Cafodd cama dechreuol ei gyllido fel rhan o gynllun Ygoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS).
AU27311