Meistr mewn Cysylltedd
22 Tachwedd 2011
Yr wythnos hon mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio cwrs arloesol newydd wedi’i yrru gan chwyldro mwyaf pellgyrhaeddol yr 21ain Ganrif.
Mae’r radd Meistr un flynedd newydd mewn Cysylltedd yn cynnig cyfle unigryw i astudio’r modd y mae grym cyfunol y rhyngrwyd, technoleg ddigidol ac amryw lwyfannau cyfryngau a chyfathrebu yn dylanwadu ar natur bywydau unigolion a chymunedau yn ogystal â phensaernïaeth economïau, cymdeithasau a diwylliannau ledled y byd.
Mae’r rhaglen newydd hon yn cael ei harwain gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac mae’n cael ei phorthi gan feysydd arbenigedd wyth o adrannau academaidd: Celf, Cyfrifiadureg, Astudiaethau Gwybodaeth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y Gyfraith a Throseddeg, Rheolaeth a Busnes, Seicoleg, ac Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu.
Dywedodd yr Athro Mike Foley, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Dyma’r cynllun gradd Meistr cyntaf o’i fath yn y byd, ac mae’r rhaglen unigryw hon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio mewn amgylchedd gwirioneddol amlddisgyblaethol.
“Bydd yn eu galluogi i archwilio effaith y technolegau hyn a’r modd y’u defnyddir mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau yn y celfyddydau, y gwyddorau, a’r gwyddorau cymdeithasol, yn ogystal â’r ffyrdd mae gwahanol themâu yn gorgyffwrdd ac yn rhyngweithio â'i gilydd o fewn, a rhwng y cylchoedd cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd.
“Drwy gynnwys ystod o adrannau, bydd modd i fyfyrwyr edrych ar oblygiadau ‘Cysylltedd’ o wahanol safbwyntiau disgyblaethol, a bydd modiwl craidd y cynllun gradd yn cynnig ymdriniaeth fwy holistaidd ar gyfer deall effaith technoleg a chyfryngau’r we.”
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r rhaglen Meistr hwn yn elfen allweddol o fenter fawr newydd gan Brifysgol Aberystwyth. Bydd yn creu canolfan uchel ei phroffil ar gyfer astudio ‘Cysylltedd’, gan gyfuno dysgu, ymchwil a lledaenu gwybodaeth yn y maes, wrth i ni sefydlu ein hunain yn ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch allanol masnachol a chyhoeddus ar gyfer archwilio effaith y ‘chwyldro gwybodaeth’ ar fywyd modern.”
Lansiwyd y cwrs newydd, a fydd yn rhedeg o fis Medi 2012 ymlaen, gan yr Athro April McMahon mewn derbyniad yn Llundain, a gynhaliwyd gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol, ddydd Mawrth 22 Tachwedd.
Arbenigedd Rhyngddisgyblaethol a Chyfraniadau i’r Rhaglen
Adran Cyfrifiadureg http://www.aber.ac.uk/cy/cs/
Galluogi myfyrwyr i ddeall y dechnoleg sy’n gwneud y ffenomen ‘Cysylltedd’ yn bosibl.
Adran Astudiaethau Gwybodaeth http://www.aber.ac.uk/en/dis/
Darparu sylfaen gadarn ynghylch goblygiadau’r rhyngrwyd o ran rheoli data a throsglwyddo gwybodaeth.
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol http://www.aber.ac.uk/cy/interpol/
Galluogi myfyrwyr i archwilio i faterion diogelwch ar y we, seiber-ryfela ac effaith cysylltedd ar wleidyddiaeth fewnol a gwleidyddiaeth ryngwladol.
Adran y Gyfraith a Throseddeg http://www.aber.ac.uk/cy/law-criminology/
Darparu arbenigedd ynglŷn ag effaith y rhyngrwyd ar faterion cyfreithiol.
Adran Seicoleg http://www.aber.ac.uk/cy/psychology/
Cynnig mewnwelediadau ynglŷn â’r modd y mae gwybodaeth a thechnoleg cyfathrebu yn effeithio ar ddealltwriaeth a datblygiad y ddynoliaeth.
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu http://www.aber.ac.uk/cy/tfts/
Canolbwyntio ar y modd y mae technolegau a chyfryngau’r we yn dylanwadu ar ddiwylliant ac yn gwneud ffurfiau newydd o berfformio yn bosibl.
Yr Ysgol Gelf http://www.aber.ac.uk/en/art/
Canolbwyntio ar y modd y mae technolegau a chyfryngau’r we yn dylanwadu ar ddiwylliant ac yn gwneud ffurfiau newydd o gelfyddyd yn bosibl.
Ysgol Rheolaeth a Busnes http://www.aber.ac.uk/cy/smb/
Canolbwyntio ar oblygiadau ‘Cysylltedd’ a’r cyfleoedd mae’n cynnig fusnesau a mentergarwyr.
AU28211