Question Time
David Dimbleby
17 Tachwedd 2011
Bydd rhaglen drafod wleidyddol BBC 1, Question Time, yn cael ei ffilmio yng Nghanolfan y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth ar nos Iau, 17eg o Dachwedd.
Yn ymuno â’r cyflwynydd, David Dimbleby bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Welwyn Hatfield, Grant Shapps; Llefarydd yr Wrthblaid dros Fewnfudo a’r Aelod Seneddol Llafur dros Rhondda, Chris Bryant; Aelod Cynulliad Cymru Plaid Cymru dros Geredigion Elin Jones; Colofnydd papur newydd The Guardian Will Hutton, a’r Economegydd a’r Sylwebydd Gwleidyddol Syr Simon Jenkins.
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser mawr croesawu Question Time i’r Brifysgol, ac rwy’n edrych ymlaen at yr hyn sy’n argoeli i fod yn drafodaeth fywiog. Mae Prifysgol Aberystwyth yn enwog am ei Hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yr adran gyntaf o’i bath yn y byd, ac felly mae'n briodol iawn ein bod yn cynnal trafodaeth wleidyddol o’r math yma. Rwy’n siŵr y bydd ein myfyrwyr, ein cydweithwyr a’r bobl leol yn edrych ymlaen at gael trafod gyda’r panelwyr tra eu bod yn Aberystwyth.”
Ffilmir y rhaglen yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, canolfan arobryn ac un o adrannau Prifysgol Aberystwyth, a chanolfan gelfyddydau fwyaf Cymru, a sefydliad a adwaenir fel “banerlong genedlaethol i’r celfyddydau”.
Darlledir y rhaglen ar BBC 1 am 22:35yh, a bydd ar gael ar BBC iPlayer ar ôl y darllediad.
AU27711