Pasbort Theatr

Cwmni dawns dynion cyfoes Lea Anderson The Featherstonehaughs.

Cwmni dawns dynion cyfoes Lea Anderson The Featherstonehaughs.

16 Tachwedd 2011

Mae myfyrwyr Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect arloesol sydd wedi’i gynllunio i helpu i gymhwyso elfennau o’u hastudiaethau academaidd yn uniongyrchol i gynyrchiadau proffesiynol gan gwmnïau blaenllaw o’r DU ac yn rhyngwladol. Mae 340 o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn y cynllun Pasbort Theatr, sy’n cynnwys deg o gynyrchiadau proffesiynol dros flwyddyn academaidd 2011/12 ac sy’n bartneriaeth rhwng Canolfan Celfyddydau’r Brifysgol a’i Hadran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae Canolfan Celfyddydau arobryn Aberystwyth yn adnodd pwysig yn y rhanbarth, yn denu dros 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’w chyfleusterau helaeth a’i rhaglen o berfformiadau a digwyddiadau. Ei rhaglen gynhwysfawr o gelfyddydau cymunedol yw’r fwyaf yng Nghymru. Mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn darparu cyfleoedd dysgu, addysgu ac ymchwilio o’r ansawdd gorau i fyfyrwyr sy’n dod o Gymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt. Fel un o’r Adrannau mwyaf a mwyaf arwyddocaol o’i math, mae’n ymdrechu’n barhaus i ymgysylltu â phartneriaid allanol i sicrhau perthnasedd a chymhwysedd ei harferion mewn diwydiannau diwylliannol a chreadigol a’r cyd-destun cymdeithasol ehangach.

Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Alan Hewson: “Daeth y sbardun ar gyfer y Cynllun Pasbort o awydd ar y cyd gan Ganolfan y Celfyddydau a’n cydweithwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i annog myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i brofi a chael eu hysbrydoli gan gynyrchiadau proffesiynol o’r safon uchaf wrth astudio yn Aberystwyth.  Roeddem ni hefyd yn awyddus i sicrhau bod y gwaith ar agor i’r cyhoedd, er mwyn i fyfyrwyr gael profi effaith lawn gweld gwaith byw o’r ansawdd gorau. O’n safbwynt ni mae wedi bod yn gynllun cadarnhaol iawn ac yn un rydym ni’n awyddus i’w ddatblygu.”

Ochr yn ochr â gweld y cynyrchiadau mewn amgylchedd byw, yn gysylltiedig â chyfres o sgyrsiau gan y perfformwyr a’r cyfarwyddwyr, mae’r rhaglen academaidd yn defnyddio’r gwaith a welwyd fel sail ar gyfer astudiaethau ffurfiol drwy seminarau, darlithoedd a chyflwyniadau ysgrifenedig.

Dywedodd Andrew Filmer, Darlithydd mewn Theatr, Drama a Pherfformio yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: “Mae cyflwyno’r Cynllun Pasbort wedi bod yn fuddiol iawn i staff a myfyrwyr yr adran, gan ein galluogi ni i osod y profiad o fynychu theatr fyw yn ganolog yn y cwricwlwm. Mae myfyrwyr yn elwa ar gael gweld amrywiaeth o arddulliau theatr a pherfformio yn ystod eu hastudiaethau a gallant ddatblygu eu sgiliau dadansoddi drwy drafodaethau gyda’u cymheiriaid a’u tiwtoriaid yn y dosbarth a thrwy ymatebion ysgrifenedig hirach i’r cynyrchiadau a welir ganddynt. Dyw hi ddim wedi bod yn syndod fod ymateb y myfyrwyr i’r Pasbort wedi bod yn rhyfeddol o gadarnhaol.”

Caiff y rhaglen ar gyfer y flwyddyn ei dewis yn ofalus i gynnig cydbwysedd o waith dawns a theatr o wahanol arddulliau a graddfeydd, o berfformiadau un dyn arbrofol i ddramâu clasurol llawn a chwmnïau dawns canolig eu maint ac uchel eu parch. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i fyfyrwyr, gyda’u tiwtoriaid prifysgol, herio a dadansoddi syniadau am yr hyn yw theatr a’r hyn a all fod.

Mae’r ffaith fod y perfformiadau’n digwydd mewn lleoliad theatr proffesiynol, gydag aelodau o’r cyhoedd ynbresennol yn y theatr yn ogystal â myfyrwyr, hefyd yn cynnig y cyfle i adfyfyrio ar y digwyddiad theatrig ac ymateb y cyhoedd. Ochr yn ochr â pherfformiadau bydd Canolfan y Celfyddydau’n trefnu cyfres o sgyrsiau a gweithdai ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho. Hefyd ceir symposia achlysurol mewn partneriaeth â’r ddwy Adran.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect yn 2010/11 mynychodd myfyrwyr theatr blwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn ddeg o gynyrchiadau oedd yn cwmpasu amrywiaeth eang o arddulliau a thechnegau perfformio. Caiff gwaith ei ddewis mewn partneriaeth gan Ganolfan y Celfyddydau a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i ddarparu amrywiaeth sy’n gweddu i’r maes llafur academaidd ond sydd hefyd yn ddeniadol i’r cyhoedd yn gyffredinol. Roedd y rhain yn amrywio o lwyfannu clasuron gan Shakespeare gyda ‘Romeo and Juliet’ gan Pilot Theatre  a ‘Hamlet’ gan Northern Broadside, i ‘The New Man’ gan Ligna Theatre oedd yn berfformiad heb actorion na llwyfan oedd yn cael ei gyflwyno drwy sain i awgrymu ystumiau a symudiadau. Roedd perfformwyr eraill yn cynnwys Augusto Corrieri, Cupola Bobber o Chicago, a chynhyrchiad teithiol Canolfan Celfyddydau Aberystwyth ei hun o ‘Wuthering Heights’ a addaswyd i’r llwyfan gan Lucy Gough, Cymrawd Addysgu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae rhaglen 2011/12 yn cynnwys y cydweithio nodedig cyntaf rhwng yr artist o fri William Kentridge a chwmni rhyngwladol Handspring Puppet Theatre yn perfformio ‘Woyzeck on the Highveld’, cynhyrchiad newydd Forced Entertainment o ‘Void Story’, taith olaf cwmni dawns dynion cyfoes Lea Anderson The Featherstonehaughs, a chwmni dawns Hofesh Shechter, a anwyd yn Israel.  

Y gobaith yw y bydd y cynllun Pasbort Theatr yn gweithredu fel model ar gyfer datblygu prosiectau ag adrannau eraill o fewn y Brifysgol. Eisoes yn 2011/12 gwelwyd cyflwyno ‘Clwb Ffilmiau Cwlt’ sy’n gyfres o 12 o ffilmiau yn cael eu dangos yn sinema Canolfan y Celfyddydau, gyda sgyrsiau gan Ddarlithwyr Ffilm sy’n arbenigwyr yn y maes. Fel gyda’r model Theatr, mae’r ffilmiau wedi’u dewis mewn trafodaeth, gan ystyried astudiaethau yn ogystal â diddordeb cyffredinol er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl.

AU27511