Astudio uwchraddedig

01 Tachwedd 2011

Cynhelir Ffair Astudio Uwchraddedig Aberystwyth ar ddydd Mercher 2 Tachwedd rhwng 3 a 6 y prynhawn yn Adeilad Undeb y Myfyrwyr ar gampws Penglais.

Mae’r ffair yn gyfle i gael gwybod mwy am gyrsiau uwchraddedig, y cyllid a’r cymorth sydd ar gael yma yn Aberystwyth.

Bydd cyfle hefyd i gwrdd â chynrychiolwyr o bob adran academaidd, y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion a chynrychiolwyr o ddarparwyr cymorth eraill.

Cyfle gwych i siarad â chynrychiolwyr adrannau am gyrsiau Meistr, galwedigaethol a dysgu o bell, ac am y cyfleoedd ymchwil,  ystyried y posibiliadau o ran Graddau Meistr - cyfle i arbenigo neu i roi cynnig ar ddisgyblaeth newydd, cael cyngor ar gyfleoedd am ysgoloriaethau a Benthyciadau Datblygu Gyrfa a thrafod y broses ymgeisio â staff o’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion.

Mae’r digwyddiad ar agor i aelodau o’r cyhoedd yn ogystal â myfyrwyr ac aelodau staff y Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/study_fair/

AU26311