Australian Art and Artists in London, 1950-1965: An Antipodean Summer
Dr Simon Pierse, Darlithydd mewn Celfyddyd Gain yn Yr Ysgol Gelf.
31 Hydref 2011
Bydd gweledigaeth unigryw o identiti Awstralaidd gan artistiaid Awstralaidd oddi cartref yn dod i’r amlwg yr wythnos hon mewn cyfrol gan Dr Simon Pierse o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.
Mae Australian Art and Artists in London, 1950-1960: An Antipodean Summer yn uchafbwynt deng mlynedd o ymchwil gan Dr Pierse sy’n canolbwyntio ar ganfyddiadau Prydeinig o gelf a hunaniaeth Awstralia.
Bydd y llyfr, a gyhoeddir gan Ashgate, yn cynnwys deunydd archifol, llythyrau a ffotograffau sydd heb fod ar gael ym Mhrydain nac Awstralia cyn hyn.
Yn dilyn tymor ‘ The Australian Season’ yn yr Amgueddfa Brydeinig yn ddiweddar, mae An Antipodean Summer yn gyfraniad amserol i’r broses o ailystyried celf y Gymanwlad a’r diddordeb newydd sydd mewn celf o Awstralia. Mae astudiaeth Dr Pierse yn darparu naratif hanesyddol cydlynol sy’n canolbwyntio ar y ddau ddegawd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
“Mae’n ymwneud â’r cyfnod o drawsnewid yn hanes celf o Brydain ac o Awstralia,” eglura Dr Pierse. “Yn ystod y cyfnod hwn roedd Prydain ail godi wedi’r rhyfel a’r Frenhines Elisabeth II ifanc yn ffurfio perthynas newydd gydag Awstralia trwy’r Gymanwlad.”
Roedd Dr Pierse yn Gymrawd Deucanmlynyddol Syr Robert Menzies yn 2000-2001 ac wedi’i leoli ym Mhrifysgol La Trobe, Melbourne. Mae wedi dychwelyd i Awstralia sawl gwaith dros y degawd diwethaf gan gyfrannu at ddealltwriaeth pobl o gelf o Awstralia trwy gofnodi profiadau uniongyrchol.
Yn ddiweddar gwahoddwyd Dr Pierse i Dderbyniad Brenhinol ym Mhalas Buckingham cyn i’r Frenhines gychwyn ar ei thaith i Awstralia. Yno cafodd gyfle i gwrdd â’r Fonesig Anne Griffiths, archifydd Dug Caeredin gan drafod rôl sylweddol aelodau o’r teulu brenhinol fel noddwyr celf o Awstralia.
Caiff Australian Art and Artists in London 1950-1965: An Antipodean Summer ei lansio’n swyddogol yng Nghanolfan Astudiaethau Awstralaidd Menzies, Coleg y Brenin Llundain, yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
AU26111