Yr Arglwydd John Morris

Yr Arglwydd John Morris.

Yr Arglwydd John Morris.

27 Hydref 2011

Nos Wener 28 Hydref 2011, bydd yr Arglwydd John Morris yn trafod ei brofiadau ym myd gwleidyddiaeth a'r gyfraith dros gyfnod o 50 mlynedd. Cynhelir y digwyddiad hwn yn Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 5.30yh, gyda derbyniad yng nghyntedd yr adeilad o 5.00 o’r gloch ymlaen.

Bu'r Arglwydd Morris yn Weinidog yn llywodraethau Harold Wilson, James Callaghan, a Tony Blair. Ef oedd y Twrnai Cyffredinol pan gefnogodd llywodraeth Tony Blair ymgyrch ddadleuol NATO yng Nghosofa. Wedi treulio dros 40 mlynedd yn Nhŷ'r Cyffredin, yr Arglwydd Morris oedd un o Aelodau Seneddol mwyaf profiadol Cymru. Mae'n parhau i fod yn weithgar yn Nhŷ'r Arglwyddi, a newydd gyhoeddi hunangofiant dadlennol.

Trefnir y digwyddiad hwn gan Gymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Prifysgol Aberystwyth (CWGA), ac mae croeso i bawb.