Darlith Goffa E H Carr

Yr Athro Robert Keohane

Yr Athro Robert Keohane

27 Hydref 2011

Bydd Robert Keohane, Athro Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Princeton, yn traddodi Darlith Goffa E H Carr ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 27 Hydref 2011.

Cynhelir y ddarlith, ‘Twenty Years of Institutional Liberalism’, gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a bydd yn cael ei thraddodi yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg am 6.00 yr hwyr. Mae’r ddarlith yn agored i aelodau o’r cyhoedd.

Mae Keohane yn ddamcaniaethwr Cysylltiadau Rhyngwladol clodfawr sydd wedi ei gysylltu gyda neo-rhyddfrydaith sefydliadol. Yn ôl pleidlais gafodd ei chynnal yn 2005 gan y cylchgrawn o’r Unol Daleithiau Foreign Policy, ef oedd yr academydd mwyaf dylanwadol ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol. Yn ogystal ag ysgrifennu gweithiau arloesol mae Keohane yn gyn-olygydd  International Organization a llywydd yr International Studies Association a’r American Political Science Association.

Mae’r Athro Keohane wedi dysgu yn rhai o brifysgolion mwyaf blaengar yr Unol Daleithiau -  Swarthmore, Stanford, Brandeis, Harvard, a Duke.  Ar hyn o bryd ef yw Athro Gwyddor Wleidyddol yn Ysgol Woodrow Wilson ym Mhrifysgol  Princeton.

AU27011