Perygl Patentau Meddalwedd
Dr Richard Stallman
25 Hydref 2011
Ar ddydd Llun 31 Hydref, bydd Dr Richard Stallman, Llywydd y Sefydliad Meddalwedd Rhad ac am Ddim yn annerch cynulleidfa yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Yn ystod ei gyflwyniad, a drefnir gan Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth a changen canolbarth Cymru y BCS, bydd Dr Stallman yn esbonio sut mae patentau meddalwedd yn atal y gwaith o ddatblygu meddalwedd. Bydd yn disgrifio sut mae patentau meddalwedd hefyd yn cynnwys syniadau am feddalwedd, sy’n rhwystro eraill rhag datblygu meddalwedd, ac sy’n golygu bod pob penderfyniad dylunio yn cynnwys risg o gael eich erlyn. Bydd hefyd yn cymharu sut mae patentau mewn meysydd eraill yn cyfyngu ar ffatrïoedd, tra bod patentau meddalwedd yn cyfyngu ar bawb sy’n defnyddio cyfrifiadur, a’r modd y mae ymchwil economaidd yn dangos eu bod hyd yn oed yn atal cynnydd.
Mae Dr Stallman yn arbenigwr blaenllaw ym maes datblygu meddalwedd. Lansiodd y mudiad dros feddalwedd rhad ac am ddim yn 1983, gan ddechrau datblygu’r System Weithredu GNU (gweler www.gnu.org) yn 1984. Mae GNU yn feddalwedd rhad ac am ddim y mae pawb yn rhydd i’w chopïo a’i hailddosbarthu a gwneud diwygiadau bach neu fawr iddi. Mae’r system GNU/Linux, sef y System Weithredu GNU â Linux wedi’i ychwanegu, yn cael ei defnyddio ar ddegau o filiynau o gyfrifiaduron heddiw.
Mewn cydnabyddiaeth o’i waith, mae Dr Stallman wedi derbyn Gwobr ACM Grace Hopper, Cymrodoriaeth Sefydliad MacArthur, Gwobr Arloesi Sefydliad y Ffin Electronig, a Gwobr Takeda am Wellhad Cymdeithasol/ Economaidd, yn ogystal â nifer o ddoethuriaethau er anrhydedd.
Mae’r cyflwyniad yn agored i bawb, ac fe’i cynhelir yn Theatr Canolfan y Celfyddydau am 4.10yp. Am wybodaeth bellach ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/cs/.