Gwobr Gwyddor Perfformio
Cyflwyniad Daniel Ladnar “Would Joseph Beuys Have Used PowerPoint?”
24 Hydref 2011
Mae Daniel Ladnar, myfyriwr PhD yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, wedi ennill Gwobr Gwyddor Perfformio Giessen am Gyflwyniadau Ysgolheigaidd a Pherfformio Darlithoedd 2011. Mae’r wobr hon yn anrhydeddu ffurfiau arloesol o gyflwyno gwybodaeth mewn unrhyw ddisgyblaeth academaidd.
Dyfarnodd y rheithgor (a oedd yn cynnwys ysgolheigion blaenllaw ym meysydd bioleg, llenyddiaeth, damcaniaeth ddiwylliannol a dawns) y wobr gyntaf i Daniel am ei berfformiad o’r ddarlith, “Would Joseph Beuys Have Used PowerPoint?”. Cafodd Daniel, sy’n ymchwilio i rôl perfformio darlithoedd mewn ymarfer a theori perfformio cyfoes, dan arolygaeth Dr Heike Roms a’r Athro Adrian Kear gyda chymorth ysgoloriaeth ddoethurol o Brifysgol Aberystwyth, wobr o €5,000.
“Mae’r Wobr Gwyddor Perfformio yn amlygu’r ffaith nad yw gwybodaeth yn bodoli yn annibynnol ar y ffurfiau a ddefnyddir i’w gyfathrebu”, meddai Daniel. “Mae’r elfen hon hefyd yn bwysig iawn i fy ymchwil doethurol, ac mae’n anrhydedd mawr bod fy ngwaith wedi cael ei gydnabod yn y modd hwn.”
Lluniwyd rhestr fer o blith dros 50 o geisiadau o bob cwr o Ewrop ac UDA, a oedd yn cynrychioli ymchwil mewn meysydd mor amrywiol â meddygaeth, cemeg, ffiseg, peirianneg, theatr, y celfyddydau gweledol a pherfformio. Cyflwynwyd y darlithoedd ar y rhestr fer mewn digwyddiad cyhoeddus ym Mhrifysgol Giessen.
Mae Daniel Ladnar yn wneuthurwr perfformiadau ac yn ymchwilydd sy’n gweithio yn Aberystwyth. Mae’n un o gyd-sylfaenwyr Random People, sy’n lwyfan ar gyfer prosiectau cydweithredol ym maes perfformio. Mae Random People wedi gwireddu ac wedi cyflwyno gwaith yn bennaf yn y Deyrnas Unedig, yr Almaen ac Awstria. Astudiodd Daniel Ladnar Theatr, Ffilm ac Astudiaethau Cyfryngau, Hanes Celf ac Almaeneg yn Frankfurt am Main ac mae hefyd wedi cyflawni MA mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Ar hyn o bryd mae’n fyfyriwr PhD yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae’n ymchwilio i rôl perfformio darlithoedd mewn ymarfer o theori perfformio cyfoes.
Dyfarnwyd y wobr am yr eilwaith (ers ei lansiad yn 2007) gan Ganolfan Cyfryngau a Rhyngweithioldeb Prifysgol Justus Liebig, Giessen (yr Almaen) gyda chefnogaeth Sefydliad Robert Bosch.