Cynhaeaf Affrica

Dr Florence Wambugu.

Dr Florence Wambugu.

17 Hydref 2011

Mae gan ganolfan ragoriaeth yng Nghymru rôl allweddol wrth drawsnewid y ffordd y mae cymorth rhyngwladol yn mynd i wledydd sy’n datblygu, yn ôl un o’r prif wyddonwyr yn y maes.

Mae’r gwaith yn fwy pwysig fyth yn ystod yr argyfwng economaidd wrth i wledydd orfod bod yn fwy atebol ac agored am eu rhaglenni cymorth tramor, meddai Dr Florence Wambugu, sylfaenydd y corff datblygu amaethyddol Affricanaidd amlwg, Africa Harvest.

Bydd Dr Wambugu yn ymweld â Chymru am ddeuddydd i drafod gydag ymchwilwyr arloesol yn IBERS,  Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 19 a dydd Iau 20 Hydref.

Bydd hefyd yn helpu i lansio Strategaeth Ryngwladol y Sefydliad ar gyfer Datblygu, a hynny yn Nhŷ’r Cyffredin ar ddydd Mawrth 18 Hydref, gyda’r Aelod Seneddol Mark Williams, yng nghwmni cyn Lysgennad y Deyrnas Unedig yn y Cenhedloedd Unedig, Syr Emyr Jones Parry, sy’n Llywydd y Brifysgol, a’r Is Ganghellor newydd, Yr Athro April McMahon.

A hithau’n sylfaenydd a phrif weithredwr Africa Harvest, sy’n gweithio o bedair swyddfa yn Affrica a gogledd America, bydd ei hanerchiad yn dwyn y teitl ‘Creu Partneriaethau ar gyfer Datblygu Amaethyddol Rhyngwladol’.

Mae’n pwysleisio’r angen am y math o bartneriaethau sydd eisoes yn digwydd rhwng IBERS ac Africa Harvest fel bod cymorth yn cael ei gynnig trwy gyrff lleol, gyda rhagor o reolaeth ddemocrataidd i sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd y cymunedau targed.

Mae ei chefnogaeth wedi ei groesawu gan yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS. “Mae cymeradwyaeth Florence Wambugu i’n cynlluniau yn tanlinellu ein hymrwymiad i ddefnyddio ymchwil wyddonol o safon rhyngwladol i wella bywydau pobol ar draws y byd.
“Fel Florence Wambugu, r’yn ni’n credu mewn symud gwyddoniaeth o’r labordy i’r farchnad er lles ffermwyr lleol a chymunedau lleol.”

Atebion byd-eang – barn Florence Wambugu
“Mae’r argyfwng hwn wedi gwneud i ni i gyd sylweddoli cymaint y mae’r byd yn gyd-ddibynnol ac wedi’i gysylltu â’i gilydd,” meddai Florence Wambugu. “Mae hefyd wedi gwneud i ni sylweddoli bod angen atebion byd-eang ar gyfer sialensiau byd-eang a bod newyn, tlodi a diffyg maeth yn argyfwng byd-eang gwirioneddol.

“Gyda chyllidebau cymorth cyfyngedig, mae’n bwysicach nag erioed i fod yn fwy atebol wrth wario arian cymorth; rhaid i Ewrop ystyried system sydd wedi ei seilio ar egwyddorion atebolrwydd  a thryloywder.

“R’yn ni’n credu bod sefydliadau fel IBERS, canolfan ymchwil a dysgu o safon byd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cynnig rhan o ateb y dyfodol o ran cymorth Ewropeaidd i wledydd sy’n datblygu, ac yn arbennig i Affrica.
 
“Trwy fagu partneriaethau gyda mudiadau llawr gwlad mewn gwledydd sy’n datblygu, sefydliadau Ewropeaidd fel IBERS yw’r ffordd ddelfrydol o hyrwyddo trosglwyddo technoleg er mwyn wynebu rhai o’r sialensiau mwyaf o ran tlodi, newyn a diffyg maeth.
 
“Gall partneriaethau cryf ac arloesol helpu i wneud y gorau o gymorth mewn ffordd ddemocrataidd, atebol ac agored. Trwy weithio mewn partneriaeth gydag IBERS, gall cyrff fel Africa Harvest adnabod y cyfranogwyr lleol a dadansoddi’r ystyriaethau pwysig a’r bylchau er mwyn sicrhau effaith gwirioneddol a chael y gwerth gorau o arian cymorth.”
 
Nodiadau i’r Golygydd:
Florence Wambugu - Dr Florence Wambugu yw un o brif gefnogwyr defnyddio gwyddoniaeth i drawsnewid amaeth yn Affrica. Gyda graddau o brifysgolion yn Kenya a’r Unol Daleithiau a doethuriaeth o Brifysgol Bath, hi a sefydlodd yr Africa Harvest Biotechnology Foundation yn 2002. Mae wedi cyhoeddi’n eang a chymryd rôl amlwg ar y llwyfan rhyngwladol, gan gynnwys lle ar banel yn rhoi cyngor i Fforwm Economaidd y Byd, ynghyd ag arweinwyr Affricanaidd ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar y pryd, Kofi Annan. Ymhlith sawl swydd a gwobr sydd ganddi, mae ar fwrdd y Bill and Melinda Gates Foundation Grand Challenge in Global Health.

Africa Harvest – O dan arweiniad Florence Wambugu, mae Africa Harvest wedi dod i gyflogi mwy na 40 o staff mewn swyddfeydd yn Nairobi, Johannesburg, Toronto a Washington. Mae wedi arbenigo mewn hyrwyddo ymchwil amaethyddol a chreu prosiectau peilot mewn cymunedau yn Affrica. Un o’i lwyddiannau mawr fu adfywio’r diwydiant bananas.

AU24711