Argyfwng yn Ewrop

Andy Klom.

Andy Klom.

14 Hydref 2011

‘Yn llygad y storm: rôl a chyfrifoldebau’r Comisiwn Ewropeaidd’

Dydd Llun 17 Hydref bydd Andy Klom, Pennaeth Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod rolau a’r heriau i’r Comisiwn Ewropeaidd mewn Ewrop sydd yn wynebu un argyfwng ar ôl y llall.

Pwnc y ddarlith fydd ‘In the eye of the storm: the European Commission's role and responsibilities’ a bydd Andy Klom yn annerch Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth.

Bydd yn trafod rolau a chyfrifoldebau'r Comisiwn Ewropeaidd yn ystod y 60 mlynedd o integreiddio Ewropeaidd sydd bod, ei sefyllfa heddiw, a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol. 

Ar adeg pan fo’r broses integreiddio yn Ewrop yn ymddangos fel petai hi ar drothwy newid aruthrol, gan symud ymlaen yn ddramatig neu ddechrau dirywio tuag at ddirwasgiad, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn parhau mewn sefyllfa allweddol yn y trafodaethau lefel uchel ar ddyfodol Ewrop. 

Andy Klom yw cynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru a bu’n Bennaeth ei swyddfa yng Nghymru ers 2005. Mae’n was sifil gyrfa yn y Comisiwn Ewropeaidd ac wedi gweithio i’w amryw swyddfeydd ers 1993 mewn amryw o lefydd: Brwsel, Brasilia, Buenos Aires, Tecsas a Chymru. 

Cynhelir y ddarlith am 2.00 y prynhawn ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Ceir mwy o wybodaeth am y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd, gan gynnwys rhaglen siaradwyr tymor yr hydref, ar y wefan http://www.aber.ac.uk/en/ces/.

AU25211