Hanes anabledd

Dr Steven Thompson, Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth.

Dr Steven Thompson, Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth.

13 Hydref 2011

Mae’r Wellcome Trust wedi rhoi bron i filiwn o bunnoedd i brosiect yn dwyn ynghyd academyddion o Brifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Northumbria a Strathclyde er mwyn archwilio hanes anabledd a diwydianeiddio.

Bydd yr ymchwil, a elwir yn ‘Anabledd a Chymdeithas Ddiwydiannol: Hanes Diwylliannol Cymharol o Feysydd Glo Prydeinig’ (‘Disability and Industrial Society: A Comparative Cultural History of British Coalfields’), i hoelio sylw ar y modd y mae diwydianeiddio wedi llywio canfyddiadau a phrofiadau anabledd rhwng 1780 a 1948.

Bydd Dr Steven Thompson o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o’r tîm a arweinir gan Yr Athro Anne Borsay a gefnogir gan Dr David Turner, y ddau o Brifysgol Abertawe, yn y prosiect £972,501 a fydd yn weithredol rhwng Hydref 2011 a Medi 2016.

Caiff pedair thema sylw gan y tîm: effeithiau datblygiadau economaidd a thechnolegol; rôl gwasanaethau meddygol a lles; canlyniadau gwleidyddiaeth, undebaeth lafur a chysylltiadau cymdeithasol; a goblygiadau'r ffactorau hanesyddol hyn o ran ffurf lenyddol naratif y meysydd glo.

Bydd y prosiect yn cynhyrchu nifer o lyfrau ac erthyglau, yn ogystal â thudalen we o ddata ystadegol. Bydd y rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd yn sicrhau y bydd canfyddiadau’r ymchwil yn hygyrch i bawb, a bydd yn cynnwys sioe deithiol, gweithdy ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, ac arddangosfa ar anabledd yn y meysydd glo yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Dywedodd Dr Thompson, “Mae hwn yn brosiect cyffrous ac uchelgeisiol yr ydym yn gobeithio y bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o anableddau yn y gymdeithas gyfoes.  Rydym yn bwriadu canolbwyntio ar un o’r diwydiannau mwyaf eiconig ac yn wir niweidiol o’r chwyldro diwydiannol gan ddangos sut y cafodd anableddau eu deall a’u profi yn ystod y cyfnod hwn o fywyd Prydeinig.  Dros y blynyddoedd nesaf, bydd tîm o ymchwilwyr yn ymgymryd ag astudiaeth hanesyddol fanwl gan ddatgelu gwir gost glo a’r pris a dalwyd o ran salwch, anafiadau ag anabledd.

Dywedodd yr Athro Borsay, “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i ddatblygu’r maes hanes anabledd, sy’n faes sydd wedi’i esgeuluso. Mae’r tîm wedi’u cyffroi gan yr heriau a gyflwynir gan ymchwil ryngddisgyblaethol a chymharol ar draws tri maes glo, ac maen nhw’n edrych ymlaen at gyflwyno’r canfyddiadau i gynulleidfa eang. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Wellcome Trust am eu cefnogaeth hael.”

Bydd panel pobl anabl yn ymgynnull wyth gwaith yn ystod cyfnod y wobr er mwyn sicrhau y caiff yr ymchwil a’r gwaith o ymgysylltu â’r cyhoedd eu llywio gan bersbectif pobl anabl.

Dywedodd Dr Turner, “O ran pobl anabl heddiw, bydd canfyddiadau’r prosiect yn herio dealltwriaeth o anabledd trwy ddangos bod agweddau a pholisïau yn cael eu creu yn gymdeithasol, ac felly yn agored i newid. Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddadleuon cyfoes ynglŷn â chymorth lles a’r gallu i weithio, drwy amlygu rôl newidiol ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol a meddygol o ran pennu pwy sy’n gymwys am gymorth.”

Caiff rôl cydymaith ymchwil ei chreu ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ym mhob un o’r prifysgolion sy’n rhan o’r bartneriaeth.

AU24911