Dadansoddiad etholiadol

Adeilad y Senedd yng Nghaerdydd

Adeilad y Senedd yng Nghaerdydd

11 Hydref 2011

A oedd canlyniad etholiad Cynulliad Cenedlaethol 2011 yn bleidlais o gefnogaeth i’r Blaid Lafur neu’n bleidlais yn erbyn llywodraeth y DG? Gofynnir y cwestiwn hwn mewn dau Seminar Brecwast a gynhelir yr wythnos hon  - yng Nghaerdydd fore Mawrth 11 Hydref ac yn Aberystwyth fore Mercher 12 Hydref.

Yn y seminarau hyn, bydd yr Athro Roger Scully o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth (SGC) a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd (CLlC) yn cyhoeddi am y tro cyntaf ddata a gasglwyd gan Astudiaeth Etholiad Cymru 2011.

Cynhelir y seminar yng Nghaerdydd yn Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd ac yn Aberystwyth yn Adeiladau Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, ac fe’i trefnir gan SGC a CLlC.
 
Cynhaliwyd Astudiaeth Etholiad Cymru 2011 gan SGC a CLlC mewn cydweithrediad â’r cwmni arolygon nodedig YouGov; darparwyd cefnogaeth ariannol i’r astudiaeth gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y Deyrnas Gyfunol.

Cafodd sampl gynrychioliadol o etholwyr Cymru, dros 2000 o ymatebwyr, eu cyfweld ar y rhyngrwyd yn ystod pedair wythnos ymgyrch yr etholiad. Cawsant eu cyfweld eto yn syth wedi’r bleidlais.

Bydd yr Athro Scully a’r Athro Wyn Jones, dau o ddadansoddwyr etholiadol amlycaf Cymru, yn tynnu ar dystiolaeth o’r Astudiaeth i drafod nifer o gwestiynau penodol, megis:

• Sut lwyddodd y Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol i gael eu hetholiad Cynulliad mwyaf llwyddiannus erioed?

• Pam fod Plaid Cymru wedi profi ei chanlyniad gwaethaf erioed mewn etholiad datganoledig, tra bod cenedlaetholwyr yr Alban, ar yr un diwrnod, yn ennill buddugoliaeth anhygoel?

• Faint o effaith gafodd arweinwyr y pleidiau a’r ymgyrchoedd ar y bleidlais?

• Ar ôl deuddeng mlynedd o ddatganoli, ac yn sgil refferendwm fis Mawrth diwethaf, beth yw barn pobl Cymru am y modd y caiff Cymru ei llywodraethu a’r rhagolygon am ehangu datganoli ymhellach?

Ymhlith prif ddarganfyddiadau’r astudiaeth a drafodir yn y seminarau bydd y canlynol:

• Yn gyffredinol, ystyriwyd perfformiad gweinidogion Llafur a Phlaid Cymru yn llywodraeth glymblaid Cymru’n Un dipyn yn fwy cadarnhaol na llywodraeth gyfredol y DG na’r un flaenorol o dan arweiniad Gordon Brown. Roedd llai na chwarter yr ymatebwyr yn nodi fod perfformiad gweinidogion Llafur a Phlaid yng Nghaerdydd yn ‘Wael Iawn’ neu’n ‘Eithaf Gwael’; roedd 42% yn nodi fod perfformiad gweinidogion Llafur yn ‘Dda Iawn’ neu’n ‘Eithaf Da’ tra bod 31% yn dweud yr un peth am weinidogion Plaid Cymru. Mewn cyferbyniad, roedd 26% yn ystyried fod y llywodraeth Lafur flaenorol yn ‘Wael Iawn’ a 18% arall yn ei nodi fel ‘Eithaf Gwael’. Roedd y farn am lywodraeth glymblaid gyfredol Llundain hyd yn oed yn fwy anffafriol, yn enwedig i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Nododd 38% o’r ymatebwyr fod eu perfformiad fel rhan o’r llywodraeth yn ‘Wael Iawn’ gyda 23% arall yn ei nodi’n ‘Eithaf Gwael’. Fodd bynnag, roedd llawer mwy o etholwyr Cymru (52%) yn dweud eu bod yn pleidleisio’n bennaf ar sail yr hyn oedd yn digwydd yng Nghymru na’r rhai oedd yn pleidleisio ar sail yr hyn oedd yn digwydd ym Mhrydain gyfan (20%, gyda 29% yn pleidleisio ar sail yr hyn oedd yn digwydd ar y ddwy lefel, neu am resymau eraill).

• Difaterwch cyhoeddus sylweddol oedd yr ymateb i’r ymgyrch etholiadol: 51% o bleidleiswyr heb benderfynu gan bwy oedd yr ymgyrch orau hyd yn oed wedi’r etholiad. Ond ymysg y rheiny â barn benodol, ymgyrch Llafur enillodd y dydd. Roedd bron i dair gwaith yn fwy o bleidleiswyr yn ystyried mai gan Lafur oedd yr ymgyrch orau cyn Etholiad y Cynulliad (28%) nag oedd yn dweud hynny am y Blaid Geidwadol (11%), ac roedd Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol ymhellach y tu ôl eto. Carwyn Jones oedd yr arweinydd pleidiol mwyaf poblogaidd; ef oedd y gorau o ran ei berfformiad yn y dadleuon arweinyddol ar y teledu, o ran ymgyrchu’n gyffredinol a phoblogrwydd.

• Er iddynt gael y canlyniad etholiad Cynulliad gorau erioed, mae’r Ceidwadwyr yn parhau’n hynod amhoblogaidd ymysg nifer o etholwyr Cymru: rhyw 29% o’r ymatebwyr yn rhoi ‘0’ i’r Ceidwadwyr pan ofynwyd iddynt osod y pleidiau ar raddfa 0-10 am eu poblogrwydd. Isel oedd sgôr yr arweinydd Nick Bourne gyda’r pleidleiswyr hefyd, gyda David Cameron yn parhau’n llai poblogaidd ymysg pleidleiswyr Cymru nag Ed Miliband ac yn llai amhoblogaidd na Nick Clegg o drwch blewyn. Mae canlyniad da’r Ceidwadwyr yn awgrymu eu bod yn effeithiol iawn wrth drosi eu cefnogaeth gyfyngedig yn bleidleisiau yng Nghymru. Ond mae’n awgrymu hefyd fod eu hamhoblogrwydd cyson ymysg pleidleiswyr Cymru yn rhwystr iddynt rhag cynyddu eu pleidlais ymhellach.

• Awgryma data’r Astudiaeth fod yna dipyn go lew o ewyllys da tuag at Blaid Cymru ymysg etholwyr Cymru er gwaethaf canlyniad siomedig yn yr etholiad. Fodd bynnag, isel oedd sgôr yr ymgyrch etholiadol ac arweinydd y Blaid, Ieuan Wyn Jones, yn awgrymu fod y Blaid yn aneffeithiol wrth geisio troi agweddau ffafriol y cyhoedd yn bleidleisiau.

• Dengys canlyniad gwaethaf erioed y Democratiaid Rhyddfrydol mewn etholiad Cynulliad y cynnydd sylweddol sydd wedi bod o ran gwrthwynebiad i’r blaid dros y ddeuddeng mis diwethaf. Achubwyd y canlyniad siomedig rhag troi’n drychineb gan ddau ffactor: lwc a’r arweinyddiaeth. Roedd y blaid yn ffodus iawn i ennill dwy sedd ranbarthol gyda chyfanswm o 250 o fwyafrif. Bu arweinyddiaeth Kirsty Williams o gymorth mawr iddynt. Er gwaethaf amhoblogrwydd sylweddol ei phlaid, amlygwyd mai Williams oedd yr ail arweinydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda’r pleidleiswyr yn rhoi sgôr uwch iddi hi na Nick Bourne nag Ieuan Wyn Jones.

• Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth Cymru yn parhau o dan 10% o’r etholwyr (8%) a’r nifer sy’n cefnogi dileu datganoli bellach lawr i 16% o’r sampl. Mae mwyafrif clir yn ffafrio datganoli gyda bron i 7 allan o bob 10 (69% yn cefnogi’r syniad y dylai Llywodraeth Cymru gael y ‘dylanwad mwyaf dros y modd y llywodraethir Cymru’. 18% sydd yn credu mai llywodraeth y DG ddylai fod â’r dylanwad mwyaf dros lywodraethu Cymru. Ar yr un pryd, mae’r canfyddiad o bwysigrwydd llywodraeth ddatganoledig yn cynyddu: ym Mai 2007 dim ond un traean o’r etholwyr mewn astudiaeth debyg oedd yn gweld y dylai Llywodraeth Cymru ‘fod â’r mwyaf o ddylanwad dros y modd y llywodraethir Cymru’. Erbyn Mai eleni, mae’r ganran honno wedi codi i 61 y cant.

Wrth edrych ar y darganfyddiadau, dywedodd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, fod hyn “yn etholiad lle’r oedd popeth o blaid Llafur. Dengys ein tystiolaeth mai nhw oedd y blaid fwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda’r arweinydd mwyaf poblogaidd o bell ffordd. Dengys y data hefyd mai’r Blaid Lafur gafodd yr ymgyrch mwyaf gweladwy ac effeithiol. A llwyddwyd i ymgyrchu yn erbyn llywodraeth amhoblogaidd yn y DG. Felly nid yw’n syndod iddynt gael y canlyniad gorau erioed mewn etholiad Cynulliad. Yr hyn fydd yn poeni rhai o gefnogwyr mwyaf meddylgar y Blaid Lafur efallai yw hyn: os na lwyddwyd i ennill mwyafrif clir yn y Cynulliad mewn amgylchiadau fel hyn, a fydd hi’n bosib iddyn nhw fyth gyflawni hynny?”

Ychwanegodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru:
“Er y bydd y blaid ei hun yn siŵr o bwysleisio’r gwydr hanner llawn, ac mae yna’n sicr dystiolaeth o agweddau cadarnhaol tuag at y blaid ymhlith etholwyr Cymru, awgrymaf fod y data yma’n ddigalon iawn i Blaid Cymru. Rhaid cyfaddef fod yr ymgyrch yn fethiant. Yn benodol, methodd yr arweinydd, Ieuan Wyn Jones, ymgysylltu â’r cyhoedd. Gyda’r blaid bellach wedi ei heithrio o’r llywodraeth ac wedi ei hisraddio rhag bod yn wrthblaid swyddogol, bydd gan olynydd Ieuan Wyn Jones waith caled iawn yn ailadeiladu sefyllfa Plaid Cymru o fewn Gwleidyddiaeth Cymru.”