Wynebau newydd
Sara Penrhyn
07 Hydref 2011
Mae penodiadau chwe darlithydd cyfrwng Cymraeg newydd wedi eu cyhoeddi gan Brifysgol Aberystwyth.
Cafodd y penodiadau eu gwneud o dan nawdd Cynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Y chwe penodiad yw:
Sara Penrhyn Jones (Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu),
Huw Lloyd Williams (Gwleidyddiaeth Ryngwladol),
Rhun Emlyn (Hanes a Hanes Cymru),
Huw Morgan (Sefydliad Mathemateg a Ffiseg),
Rhys Dafydd Jones (Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) a
Hefin Williams (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, IBERS).
Dros y pum mlynedd nesaf bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ariannu dros 100 o swyddi darlithio newydd mewn sefydliadau yng Nghymru, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgol.
Meddai’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o’r cyfle i chwarae rhan sylweddol yn natblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chael penodi darlithwyr newydd i gyfoethogi’r ddarpariaeth a gynigir gennym drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae Cynllun Staffio’r Coleg yn ein cynorthwyo i gynyddu’r modiwlau a gynigir drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn gyfle cyffrous inni ddatblygu darpariaeth Gymraeg o’r newydd mewn rhai meysydd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r academyddion newydd hyn i’n plith ac i weld dysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn mynd o nerth i nerth.”
Sara Penrhyn Jones
Gyda thros ddeng mlynedd o brofiad yn y diwydiant teledu a’r cyfryngau newydd, mae gan Sara ddiddordeb arbennig mewn cyfrannu at ddiwylliant darlledu mwy uniongyrchol. Mae ei chefndir yn cynnwys gwaith camera a gwaith fel cyd-gyfarwyddydd ar raglenni dogfen sydd yn arsylwi (S4C, BBC2), ac mae wedi ennill gwobrau BAFTA Cymru a’r Gymdeithas Deledu Frenhinol. Mae Sara ar fin mynychu ei thrydedd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, sydd yn cael ei chynnal eleni yn Durban, De Affirca. Yno bydd yn defnyddio’r cyfryngau digidol i greu cynnwys ar-lein. Mae hi hefyd ar hyn o bryd yn cyfarwyddo prosiect rhyngwladol uchelgeisiol i uno gwyddonwyr ac artistiaid mewn ymgais i ddarganfod ffyrdd newydd a dychmygus o drafod newid hinsawdd gyda’r cyhoedd.
Dr Huw Lloyd Williams
Yn frodor o Dole, ger Bow Street, addysgwyd Huw yn Aberystwyth cyn mynychu’r London School of Economics (LSE) yn fyfyriwr israddedig. Wedi cyfnod o weithio gyda Bwrdd yr Iaith a byw ym Madrid, dychwelodd i'r brifysgol i astudio athroniaeth wleidyddol fel ysgolor Morrell yn Efrog. Yn fuan wedyn dechreuodd ar ei radd ddoethur yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth. Wedi iddo raddio yn 2009, cyfrannodd at waith dysgu’r adran, ac ym mis Mawrth eleni cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf gyda'r wasg Palgrave MacMillan, o dan y teitl On Rawls, Development and Global Justice: The Freedom of Peoples. Mae'r gyfrol yn cyfuno ei ddiddordebau ymchwil ym meysydd athroniaeth wleidyddol, damcaniaeth gwleidyddiaeth ryngwladol, a datblygiad yn y trydydd byd.
Rhun Emlyn
Dechreuodd cysylltiad Rhun gyda’r adran Hanes a Hanes Cymru wyth mlynedd yn ôl pan ddaeth i Brifysgol Aberystwyth fel myfyriwr israddedig. Enillodd Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Cyfrwng Cymraeg a chafodd ei benodi yn Gymrawd Dysgu y llynedd dan gynllun Y Ganolfan Datblygu Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg. Mae’n cyfrannu at ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg ym maes Hanes yr Oesoedd Canol ac ar fin cwblhau ei ddoethuriaeth.
Dr Huw Morgan
Brodor o ardal Llanbrynmair yw Huw ac mae’n dychwelyd i weithio yng Nghymru wedi cyfnod yn Honolulu. Dechreuodd ei yrfa’n astudio Ffiseg gyda’r Brifysgol Agored ac yna mynd ymlaen i dderbyn gradd doethur mewn Ffiseg o Sefydliad Mathemateg a Ffiseg Prifysgol Aberystwyth. Dros y blynyddoedd diwethaf bu’n gweithio fel ymchwilydd gwyddonol yn Sefydliad Seryddiaeth Prifysgol Hawaii gan arbenigo yn yr haul ac yn benodol, corona’r haul
Dr Rhys Dafydd Jones
Magwyd Rhys yn Ystalyfera. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth, lle’ r enillodd radd anrhydedd ddosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Derbyniodd Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Cyfrwng Cymraeg y Ganolfan Datblygu Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, gan astudio ar gyfer MA mewn Daearyddiaeth Wleidyddol yn 2007 a chwblhau PhD yn 2011, eto o Brifysgol Aberystwyth. Mae diddordebau ymchwil Rhys yn ymwneud â hawliau lleiafrifol, amlddiwylliannedd, a chenhedloedd lleiafrifol, yn enwedig mewn ardaloedd anrhefol.
Hefin Williams
Roedd Hefin yn Gymrawd Dysgu yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), lle bu hefyd yn fyfyriwr israddedig ac uwchraddedig. Mae ei waith ymchwil yn edrych ar effeithiau amgylcheddol afiechydon amaethyddol pwysig megis y diciâu, ac y mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y rhyngwyneb rhwng amaethyddiaeth a’r amgylchedd.