Melys, mwys, mwy

Yn y llun o’r chwith i’r dde:  Dr. Athole Marshall IBERS yn derbyn y wobr gan Llywydd BGS President John Downs, gyda Dr. Richard Hayes, bridiwr glaswellt yn IBERS.

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Dr. Athole Marshall IBERS yn derbyn y wobr gan Llywydd BGS President John Downs, gyda Dr. Richard Hayes, bridiwr glaswellt yn IBERS.

27 Medi 2011

Mae gwaith bridwyr planhigion IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei gydnabod wrth iddyn nhw ennill Gwobr Arloesi Cymdeithas Tir Glas Prydain (BGS) am ddatblygu mathau o weiriau sy’n llawn siwgr. Y term technegol yw mathau o weiriau sy’n uchel o ran carbohydrad sy’n hydoddi mewn dŵr.

Cafodd y wobr ei chyhoeddi yn 10fed Cynhadledd Ymchwil y BGS ym Melffast ar 21 Medi, pan aeth Dr. Athole Marshall (arweinydd y Grŵp Bridio Planhigion er Lles Cyhoeddus) i dderbyn y tlws gan Lywydd y BGS, John Downs.

“Mae’r mathau newydd hyn o rygwellt yn cynnig enillion gwirioneddol i ffermwyr,” meddai John, sy’n eu defnyddio ar ei fferm yn Sir Amwythig. “Maen nhw’n hawdd eu bwyta, yn doreithiog, ac mae ganddyn nhw’r potensial i wella perfformiad yr anifeiliaid, gan ostwng lefel y nitrogen sy’n mynd i’r amgylchedd yr un pryd.”

Cafodd y gweiriau eu datblygu gan y tîm bridio gweiriau yn IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) gyda chefnogaeth eu cydweithwyr ym maes gwyddor da byw ac yn y Ganolfan Ddatblygu Glastir. Maen nhw wedi profi beth yw buddiannau’r mathau hyn ac wedi annog ffermwyr i’w mabwysiadu.
 
Eglurodd Athole fod y gweiriau hyn yn rhoi ynni i feicrobau ym mlaenstumog gwartheg a defaid ar yr union adeg pan fydd eu hangen ar gyfer syntheseiddio protin microbiaidd, sy’n helpu perfformiad yr anifeiliaid a’r amgylchedd.

“Mae bwydo gyda rhygwellt sydd â lefel uwch o garbohydrad sy’n hydoddi mewn dŵr yn arwain at flaenstumog mwy effeithiol ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod hyn yn lleihau’r lefelau nitrogen, amonia ac ocsid nitraidd sy’n cael eu gollwng, trwy well defnydd o brotinau,” meddai.
 
Bellach mae yna 11 o fathau llawn siwgr ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig, gyda’r enw Aber ac wedi’u bridio yn IBERS. Mae’r cyfan wedi eu profi trwy’r cynllun Rhestr Annibynnol o Weiriau a Meillion Cymeradwy.
 
Mae rhagor o fathau o weiriau llawn siwgr yn cael eu profi ar gyfer y Rhestr, a bydd y rheiny’n cynnig mwy o fudd i ffermwyr yn y blynyddoedd i ddod gyda rhagor o fathau gwell wrthi’n cael eu datblygu ac ar wahanol gyfnodau yn rhaglen fridio planhigion IBERS.

Mae’r rhaglen honno’n cael ei noddi ar hyn o bryd gan Defra a phartneriaid yn y diwydiant, gan gynnwys Germinal Holdings, DairyCo, EBLEX, HCC, LMCNI a QMS, trwy raglen LINK Cynhyrchu Da Byw yn Gynaliadwy (SLP).
 
Bydd Gwobr Arloesi BGS yn cael ei rhoi i unigolion neu dimau sydd, ym marn Cyngor BGS, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad tir glas neu ddefnydd o borthiant yn y Deyrnas Unedig.

AU23411