Astudio tawel
Chwith i'r dde: Aelodau o'r tîm E-Wasanaeth a Chyfathrebu, Kate Wright, Swyddog Datblygu E-Ddysgu, Johanna Westwood, Swyddog Cynorthwyo E-ddysgu a Patrick Glaister, Myfyriwr Gradd dan Hyfforddiant.
09 Medi 2011
Gofod cyfrifiadureg tawel lle na ellir defnyddio Facebook yw’r Ystafell Astudio a grëwyd yn dilyn adborth oddi wrth fyfyrwyr a oedd yn gofyn am fwy o ofod cyfrifiaduron, lle tawel ar gyfer gweithio a pharth di-Facebook.
Enwyd yr ystafell ar ôl Thomas Griffiths Lloyd, cyn aelod staff ac un o alumni Aberystwyth. Mynychodd Tom Brifysgol Aberystwyth rhwng 1943 a 1946 gan raddio gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Aeth ymlaen i astudio Llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Llundain cyn dychwelyd i Aberystwyth. Chwaraeodd Tom ran ganolog ym mywyd Llyfrgell y Brifysgol a bu’n bennaeth ar y Llyfrgell Wyddoniaeth ac yna ar yr Adran Archebu. Pan fu farw ym mis Ebrill 2006 yn 81 oed gadawodd gymynrodd o £45,000 i’r Llyfrgell.
Cafodd yr ystafell ei henwi ar ôl Tom er mwyn sicrhau bod ei gyfraniad i’r Brifysgol ac i’r Llyfrgell yn parhau i gael ei werthfawrogi a’i ddathlu.
Agorwyd yr ystafell gan Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, a chefnder Tom, Roy Griffiths Lloyd. Yn bresennol hefyd roedd rhai o gyn-gydweithwyr Tom a nifer o Alumni Aber.
Cafodd pawb gyfle i weld yr adnoddau newydd ac yfed llwnc testun mewn gwerthfawrogiad o gyfraniad Tom i’r Llyfrgell ac i’r gefnogaeth y mae ei gymynrodd yn parhau i’w rhoi i fyfyrwyr Aberystwyth.
Yn y llun mae aelodau o dîm E-Wasanaeth a Chyfathrebu Gwasanaethau Gwybodaeth, Kate Wright, Swyddog Datblygu E-Ddysgu, Johanna Westwood, Swyddog Cynorthwyo E-ddysgu a Patrick Glaister, Myfyriwr Gradd dan Hyfforddiant, a fu’n gyfrifol am drefnu’r agoriad.
Bu’r tîm hefyd yn cydweithio gyda Monica Decelis o Cyfryngau a Gwerthiant Gwasanaethau Gwybodaeth i greu arddangosfa i ddathlu cyfraniad Tom Lloyd ac mae i’w gweld ar hyn o bryd yn yr ystafell astudio dawel.
AU21911