Apps symudol

Apps ar iPhone

Apps ar iPhone

05 Medi 2011

Wedi i Apple werthu mwy na gwerth $2 Biliwn o Apps llynedd, a rhai yn rhagweld y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu i rhwng $15 a $38 biliwn erbyn 2015, mae Apps yn fusnes mawr ac yn rhan annatod o gyfathrebu symudol. 

O’r 7fed tan y 9fed o Fedi mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd gyntaf y Deyrnas Gyfunol i bobl sydd yn datblygu Apps ar gyfer iPhones ac iPads.  

Trefnydd iOS DEV UK (www.iosdevuk.com) yw’r Athro Chris Price o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, a datblygwr Apps ar gyfer dysgwyr y Gymraeg. 

Mae disgwyl i fwy na 170 o gynadleddwyr i fynychu’r digwyddiad tri diwrnod yn Aberystwyth. Cafwyd cryn ddiddordeb yn rhyngwladol hefyd a bydd datblygwyr o Wlad Belg, Sweden, y Swistir, Israel, y Ffindir, yr Iseldiroedd, Iwerddon a’r Unol Daleithiau yn teithio i’r gynhadledd.

Ymysg y siaradwyr mae Dave Addey, Rheolwr Gyfarwyddwr Agant Limited, datblygwr yr App llwyddiannus ar gyfer amserau trenau yn y Deyrnas Gyfunol, Alasdair Allan, awdur Learning iPhone Programming a Programming iPhone Sensors o O'Reilly Media, a Dave Wiskus, Prif Swyddog Credgiol Black Pixel o’r Unol Daleithiau, un o’r siopau dylunio a datblygu iOS mwyaf blaenllaw yn y byd.

Bydd cyfle hefyd i glywed y ddau ddatblygwr ifanc Max and Josh Scott-Slade sydd wedi sefydlu JohnnyTwoShoes, ac a ysgrifennodd y gêm morladron llwyddiannus "Plunderland".

Bydd y datblygwyr hefyd yn cael cyfle i fwrw pleidlais dros yr Apps gorau yn eu barn nhw. Categorïau yn cynnwys: App Gem Gorau, App Hamdden Gorau, App Busnes/Cynhyrchiant Gorau, App Addysg Gorau, App Cyflwyno Gwybodaeth Gorau, App Datblygu Apps Gorau, Rhaglen pen ddesg Datblygu Apps Gorau ar App Rhwydweithio Cymdeithasol Gorau. Bydd y pleidleisio yn digwydd fore Iau 8 Medi am 10.00 o’r gloch. 

Cyn y gynhadledd dywedodd yr Athro Price:
“Pan lansiodd Apple eu Siop App iPhone ym 1998, dechreuwyd chwyldro mewn ffonau symudol. Cyn y dyddiad hwnnw, ychydig iawn o bobl oedd yn disgwyl i’w ffôn allu gwneud unrhyw beth ar wahân i alwadau ffôn, anfon negeseuon testun neu efallai bori’r We.

“Llynedd gwerthodd Apple werth dros $2 biliwn o Apps. Rydyn ni bellach mewn sefyllfa lle bydd dros hanner y ffonau a werthir yn UDA eleni yn ffonau smart - yn gallu eich helpu i gynllunio eich priodas, dod o hyd i’ch ffordd yn eich car, dewis ac archebu gwesty neu dŷ bwyta, gwylio’ch pwysau, cadw dyddiadur a miloedd o bethau defnyddiol eraill.

“Mae’r DU wedi bod yn cyfrannu at y diwydiant hwn gyda niferoedd iach o Apps yn cael eu creu a’u gwerthu. Nod y gynhadledd yw dod â phobl o’r DU sy’n ceisio c creu’r chwyldro at ei gilydd, gan rannu eu profiadau i’n helpu ni i fod yn fwy cystadleuol wrth adeiladu Apps i newid y byd.”

Mae manylion llawn am y gynhadledd, gan gynnwys App wrth gwrs, ar gael ar www.iosdevuk.com.

AU21011