Symposiwm Rhyngwladol

Symposiwm Rhyngwladol

Symposiwm Rhyngwladol

30 Awst 2011

Fe fydd rhai o brif wyddonwyr y byd ym maes magu anifeiliaid fferm yn dod i Aberystwyth ym mis Medi ar gyfer un o gynadleddau amaethyddol pwysica’r flwyddyn.

Fe fydd yn gyfle iddyn nhw a chynrychiolwyr o’r diwydiant amaeth a bwyd drafod dyfodol y sector da byw yn wyneb rhai o’r sialensiau anferth sy’n wynebu’r ddaear.

Yn ôl y trefnwyr, fe all y trafodaethau ddylanwadu ar obeithion y sector am flynyddoedd i ddod ac ar ddyfodol miliynau o ffermwyr led led y byd.

Mae’r gynhadledd, rhwng 6 a 9 Medi eleni, yn canolbwyntio ar anifeiliaid sy’n byw ar borfa a llystyfiant – o wartheg yng Nghymru i falwod yn Nigeria, defaid ym Mongolia a chwningod yn Sbaen.

Fe fydd y gynhadledd hefyd yn gyfle i ddangos i arbenigwyr rhyngwladol beth yw’r gwaith arloesol sy’n digwydd yn IBERS - y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth - ac mewn ffermydd yng Nghanolbarth Cymru.

IBERS sy’n trefnu’r gynhadledd, Yr Wythfed Symposiwm Rhyngwladol ar Faeth i Anifeiliaid Llysfwyteuol, ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor – dan adain y bartneriaeth o’r enw Y Ganolfan ar Gyfer Ymchwil Integredig i’r Amgylchedd Gwledig.

•        Fe fydd yn cynnwys mwy na 60 o bapurau a darlithoedd gan wyddonwyr amlyca’r byd yn y maes hwn.

•        Fe fydd arddangosfeydd posteri hefyd yn rhoi cyfle i gyflwyno gwybodaeth am 290 o brosiectau ymchwil rhyngwladol eraill.


Anrhydedd fawr

“Mae’n anrhydedd fawr i IBERS groesawu’r gynhadledd allweddol yma,” meddai Cyfarwyddwr IBERS, yr Athro Wayne Powell. “Mae’n arwydd hefyd o bwysigrwydd y gwaith ymchwil rhyngwladol sy’n cael ei wneud gennym ni a’n partneriaid ym Mhrifysgol Bangor.

“O wella cnydau a datblygu mathau newydd sy’n gallu gwrthsefyll amodau a thywydd o bob math i ddarganfod dulliau o wella defnydd anifeiliaid o’r cnydau hynny, mae IBERS yn arwain y ffordd wrth ddatrys rhai o broblemau mwyaf dwys y byd.”

AU19011

 

Fe fydd rhai o wyddonwyr IBERS yn gwneud cyflwyniadau am eu gwaith yn ystod y gynhadledd, gan ymuno â degau o’r prif wyddonwyr o bob rhan o’r byd, o China i Awstralia ac o Sweden i’r Unol Daleithiau.

 

Yn eu plith, bydd Dr Alison Kingston-Smith o IBERS yn rhoi un o’r prif ddarlithoedd, ar wella genynnau cnydau porthiant er mwyn cynyddu cynnyrch da byw a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

 

Fe fydd sylw hefyd i waith IBERS ar dreulio porthiant mewn anifeiliaid sy’n cnoi cil, ar nodweddion silwair a meillion coch ac ar leihau’r lefelau o fethan y mae gwartheg yn ei ollwng i’r amgylchedd.

 

Ar groesffordd

Mae’r gynhadledd yn cynnwys wyth prif sesiwn, un gweithdy min nos a thaith wyddonol hanner diwrnod i weld peth o’r gwaith ymchwil allweddol sy’n digwydd yn yr ardal.

 

“Mae ffermio anifeiliaid ar groesffordd,” meddai’r Athro Nigel Scollan o IBERS, cadeirydd y tîm lleol sy’n trefnu’r gynhadledd a’r gŵr a fydd yn agor a chau’r gweithgareddau.

 

“Mae yna gystadleuaeth am dir oherwydd dulliau eraill o ddefnyddio tir, mae angen i leddfu newid hinsawdd ac addasu i’w effeithiau ac mae angen cwrdd â galw cymdeithas am fwyd saff a maethlon sy’n cael ei gynhyrchu’n rhad.

 

“Mae’r symposiwm hwn yn cynnig cyfle unigryw i wyddonwyr â rhai eraill sydd â diddordeb yn y maes i weithio gyda’i gilydd i siapio dyfodol y maes.”