Pam fod gan wrywod bach sberm mawr
Ystifflogod gwryw (Loligo bleekeri)
10 Awst 2011
Mae Paul Shaw, Athro Geneteg Poblogaeth a Geonomeg yn IBERS wedi cyhoeddi canfyddiadau ymchwil i esblygiad strategaethau cyplu ysifflogod. Yn 2008, tra’r oedd ym Mhrifysgol Royal Holloway yn Llundain, sefydlodd ymchwil cydweithredol gyda gwyddonwyr yn Japan fel rhan o rwydwaith byd-eang ehangach yn cynnwys grwpiau yn y DU, De Affrica, Japan, Califfornia ac Awstralia, i ymchwilio dulliau atgenhedlu’r ystifflog (a seffalopodau eraill) ar draws y byd.
Ochr yn ochr ag ymchwilwyr yn Japan, edrychodd ar y sberm a gynhyrchir gan wrywod llechwraidd bach a gwrywod consort mawr a chanfod bod y sberm a gynhyrchir gan y gwrywod llechwraidd yn sylweddol fwy na hwnnw a gynhyrchir gan y consortiaid. Dyma’r tro cyntaf i wahaniaeth o’r fath gael ei weld mewn unrhyw anifail.
Dywedodd Dr Yoko Iwata o Brifysgol Tokyo, “Mae maint sberm yn debygol o fod yn addasiad i’r amgylchedd ffrwythloni, naill ai y tu mewn i’r fenyw neu’r tu allan, yn hytrach nag yn gystadleuaeth rhwng sberm, oherwydd mae ffrwythlondeb a symudedd y sberm llechwraidd a chonsort yr un fath.”
Mae’r ystifflogod gwryw (Loligo bleekeri) yn defnyddio strategaethau atgenhedlu gwahanol gan ddibynnu ar faint eu cyrff. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn mynediad agored BioMed Central, BMC Evolutionary Biology, yn dangos bod yr amrywiaeth o ran ymddygiad cyplu ystifflogod gwryw wedi arwain at esblygu meintiau sberm gwahanol.
Mae ystifflogod gwryw mawr yn cystadlu am fenywod gan eu denu ag arddangosiadau llachar drwy newid lliw eu croen. Unwaith y bydd benyw wedi dewis ei phartner byddant yn paru mewn safle uwchben ac islaw er mwyn i’r gwryw gael gosod ei sberm y tu mewn i ddwythell wyau’r fenyw. Mae’n aros gyda’r fenyw tan iddi hi silio, er mwyn sicrhau bod ei sberm yn ffrwythloni ei hwyau ac nad oes unrhyw wrywod eraill yn cael cyfle i baru gyda hi. Ar yr eiliad y mae’r fenyw yn dodwy ei hwyau, mae gwrywod ‘llechwraidd’ bach yn rhuthro i mewn ac yn paru gyda hi, pen wrth ben. Mae’r gwrywod bach hyn yn gosod pecynnau o sberm ger ceg y fenyw yn y gobaith y bydd cyfle i’w sberm ffrwythloni’r wyau wrth iddi eu dal yn ei breichiau cyn eu gosod ar wely’r môr.
Dywedodd Paul: “Mae fy niddordebau ymchwil yn ymwneud â deall dosbarthiad ac esblygiad bioamrywiaeth geneteg o fewn rhywogaethau, yn enwedig mewn systemau acwatig. Y nod yw diffinio mecanweithiau sy’n tanategu esblygiad poblogaethau a ffurfiant rhywogaethau ac mae’r holl elfennau hyn yn sylfaen i’r ymchwil hynod o ddadlennol hwn.” Mae’r Athro Shaw yn parhau â’r gwaith hwn o fewn buddsoddiad mawr yn IBERS fel rhan o’r Gynghrair Biowyddorau, Amgylchedd ac Amaeth (BEAA).
Yn gyffredinol, strategaeth y gwrywod mwy o faint sydd arwain at y cyfraddau tadolaeth uchaf - ond i’r gwrywod bach, sydd yn methu ennill benyw drwy deg, mae bod yn llechwraidd a chael sberm mwy o faint yn cynnig cyfle iddynt drosglwyddo eu genynnau.
AU19111