Targedau therapiwtig newydd posibl ar gyfer Schistosomiasis

Yr Athro Karl Hoffmann

Yr Athro Karl Hoffmann

10 Awst 2011

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi gwneud darganfyddiad arwyddocaol a allai arwain y ffordd at ddatblygu triniaeth cyffuriau newydd ar gyfer un o glefydau mwyaf angheuol y byd. 

Mewn papur â’r teitl Cytosine methylation regulates oviposition in the pathogenic blood fluke Schistosoma mansoni a gyhoeddir yn Nature Communications ddydd Mawrth 9 Awst 2011, mae’r Athro Karl Hoffmann o Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol yn amlinellu sut maen nhw wedi adnabod addasiad DNA penodol o’r llyngyren ledog barasitig Schistosoma mansoni sy’n achosi’r clefyd schistosomiasis.

Afiechyd cronig a gwanychol a achosir gan lyngyr gwaed yw schistosomiasis, sy’n lladd 300,000 o bobl y flwyddyn. Mae’r nifer hwn o farwolaethau’n ail yn unig i falaria ymysg clefydau parasitig, ac mae hefyd yn gadael dros 200 miliwn o bobl â salwch cronig.

Am y tro cyntaf, mae’r Athro Hoffmann a’i gydweithwyr yn dangos bod DNA genomig y llyngyren gwaed Schistosoma mansoni yn fethyledig, ac maen nhw wedi adnabod y protein (methyltransfferas DNA) sy’n debygol o hwyluso’r broses hon. 

Ystyrir mai methylu DNA  (cysylltu grŵp methyl ag un o bedair sail niwcleaidd sy’n creu DNA unrhyw organeb) yw un o’r addasiadau genom pwysicaf ym myd natur ac mae’n ymwneud â bioleg ddatblygiadol, rheoli mynegiad genynnau ac amrywiaeth ffenoteipaidd.

Canfu’r gwyddonwyr fod creu ataliad cemegol o fecanwaith methylu’r DNA gyda’r cyffur cemotherapiwtig a gymeradwywyd gan yr FDA, 5-azacytidine (5-AzaC), yn lleihau’n ddramatig y nifer o wyau a gynhyrchir gan lyngyr gwaed benywaidd a’i fod hefyd yn achosi namau datblygiadol yn yr wyau sy’n weddill.

Gan fod wyau’n gyfrifol am y batholeg sy’n gysylltiedig â schistosomiasis a throsglwyddo’r clefyd, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod modd targedu’r proteinau sy’n methylu DNA yn y llyngyr gwaed er mwyn eu rheoli.

Dywedodd yr Athro Hoffmann: “Yn nhermau’r effaith ar fywydau pobl mae’r clefyd hwn yn waeth na TB, malaria ac mae’n cyfateb i AIDS o ran baich y clefyd. Mae’n cael effaith fawr ar yr hyn y gallan nhw ei wneud. Mae’n amhosibl mynd i’r ysgol, does dim modd gweithio, ac mae’r boen yn barhaus.”

“Mae’r darganfyddiad hwn o ran y modd y gellir addasu genynnau schistosome yn anhygoel o gyffrous gan ei fod yn cyflwyno dull newydd o reoli schistosomiasis a hefyd yn darparu tystiolaeth sy’n dangos rôl ymarferol bwysig ar gyfer yr addasiad penodol hwn wrth ddatblygu rhywogaeth o fwydyn parasitig.”

Mae’r ymchwil wedi’i gyllido gan Ymddiriedolaeth Wellcome a’r Sandler Center for Basic Research in Parasitic Diseases.

AU17011