Aberystwyth ddim yn Clirio
Prifysgol Aberystwyth
08 Awst 2011
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn eithriadol am geisiadau. Cymaint yw’r galw gwelodd Prifysgol Aberystwyth gynnydd o 16.6% yn y ceisiadau ac mae llawer mwy nag erioed o ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn Aberystwyth yn ddewis cadarn. Hyd yn oed mor gynnar â hyn, a chyn i ganlyniadau Lefel A gael eu cyhoeddi, mae’n amlwg na fydd angen i Aberystwyth fynd i’r Clirio.
Mae profiad penodol Aberystwyth yn wahanol iawn i’r profiad cyffredinol yng Nghymru lle mae’r cynnydd yn 1.4% yn unig ac yn y Deyrnas Unedig, lle gwelir mai 0.8% yn unig yw’r twf.
Ysgrifennodd y Cyfarwyddwr Denu a Derbyn at yr holl fyfyrwyr sy’n dal cynnig i ddweud na fydd y Brifysgol yn gallu sicrhau eu derbyn eleni onibai bod telerau’r cynnig (y graddau a enillant) yn cael eu cyflawni’n llwyr.
Meddai’r Athro Aled Jones, y Dirprwy Is-Ganghellor: “Bu hon yn flwyddyn eithriadol. Gwelwyd pob record yn cael eu torri yn 2010, ond, hyd yn hyn, mae 2011 wedi rhagori ar bob uchafbwynt yn nifer ceisiadau myfyrwyr. Cafwyd cynnydd sylweddol ar flynyddoedd a fu yn nifer y rhai a wnaeth gais i ddod yma, a’r nifer sy’n derbyn y Brifysgol yn ddewis cadarn ac yn mynd ymlaen i dderbyn ein cynigion i gyd. Mae hyn yn newyddion da iawn i’r Brifysgol ac i economi’r rhanbarth.”
“Mae’r cynnydd ym mhoblogrwydd Aberystwyth yn adlewyrchu’r addysgu rhagorol a’r cymorth a roddir i’r myfyrwyr gan ein staff, a’r ystod gwych o adnoddau sydd ar gael iddynt. Yn Aberystwyth mae’r adnoddau academaidd, diwylliannol a chwaraeon yn rhagorol, ac rydym yn gweithio’n galed yn gyson i geisio’u gwella. Tystiolaeth o’n poblogrwydd yw’r ffaith mai ni, yn 2010, oedd yr unig Brifysgol yng Nghymru nad aeth i’r Clirio.”
“Llwyddodd Prifysgol Aberystwyth yn gyson i ddod i safle uchel yn yr arolygon cenedlaethol o fodlonrwydd myfyrwyr. Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, sy’n arolwg hynod bwysig, yn gyson yn dda ac mae Aberystwyth yn cael ei gosod yn uchel bob tro.”
Yn The Complete University Guide 2012, a gyhoeddwyd ar-lein ac ym mhapur newydd y Telegraph ym mis Ebrill 2011, daeth Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr ac yn gydradd drydydd yn y Deyrnas Unedig, ochr yn ochr â sefydliadau megis Caergrawnt, St Andrews a Loughborough.
Mae’r Times Higher Education Student Experience Survey a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2011 hefyd yn rhoi Prifysgol Aberystwyth yn uchel yn y tabl cynghrair ychydig islaw Rhydychen a Chaergrawnt am gyrsiau wedi eu strwythuro’n dda (cydradd bedwerydd yn y Deyrnas Unedig).
A’r Brifysgol nawr yn llawn am 2011, mae ymgeiswyr am flwyddyn academaidd 2012/13 yn cael eu hannog i ymweld â’r Brifysgol yn y Diwrnod Agored nesaf, Ddydd Mercher 14 Medi 2011. Mae manylion y Diwrnod Agored i’w gweld ar wefan y Brifysgol www.aber.ac.uk/cy/open-days.