Gwobr Goffa Daniel Owen i Daniel
Daniel Davies, Ennillydd Gwobr Goffa Daniel Owen (llun BBC)
03 Awst 2011
Daniel Davies, cyn fyfyriwr aeth ymlaen i gwblhau doethuriaeth mewn Cemeg, yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2011.
Derbyniodd Daniel y wobr, sydd yn cael eu dyfarnu am nofel o 50,000 o eiriau neu fwy ac sydd heb ei chyhoeddi, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ar ddydd Mawrth 2 Awst.
Mae ei nofel, Tair Rheol Anrhefn, yn dilyn dau wyddonydd sydd yn gweithio yn adran Gemeg y Brifysgol. Maent yn darganfod crisial hylifol a fydd yn chwildroi y diwydiant teledu ar draws y byd, ac yn sgil hynny maent yn denu sylw dau gwmni rhyngwladol sydd yn benderfynnol o ddarganfod eu cyfrinach.
Mae’r nofel wedi’i symbylu gan straeon antur awduron fel John Buchan (The 39 Steps), Donald E Westlake (The Hot Rock) a Herman McNeile (Bull Dog Drummond) a ffilmiau fel North by Northwest a Three Days of The Condor.
Hon yw pedwaredd nofel Daniel ac fel pob un o’i nofelau eraill mae ‘Tair Rheol Anrhefn’ yn ymdrin â’r frwydr i ennill rhyddid personol mewn cymdeithas sy’n mynnu ein bod ni’n gaeth i’r system gyfalafol sydd ohoni.
Mae Daniel yn newyddiadurwr ar-lein gyda’r BBC.
AU19411