Is-Ganghellor yn croesawu dysgwyr Cymraeg
Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth gyda thiwtoriaid Cymraeg o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru
02 Awst 2011
Yn ei gweithred gyhoeddus gyntaf fel Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, buodd yr Athro April McMahon yn croesawu mwy na 70 o ddysgwyr y Gymraeg o bob cwr o’r byd i’r Brifysgol ar ddiwrnod agoriadol Cwrs Haf Awst 2011.
Trefnir y cwrs, sydd wedi ei anelu at ddechreuwyr a dysgwyr mwy profiadol, gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n rhedeg o 1 tan 26 Awst ac yn croesawu pobl o America, Llydaw, Gwlad Pwyl, yr Almaen, Awstralia, Siapan a Lloegr, yn ogystal â Chymru.
Roedd yr Athro McMahon, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Mawrth eleni, yn annerch y dysgwyr mewn derbyniad arbennig am 6.30 nos Lun 1 Awst ym Mwyty Tamed Da ar gampws Penglais. Roedd y noson yn cynnwys adloniant gan grŵp gwerin Cerddcegin.
Mae Cwrs Haf Awst yn cynnig rhaglen lawn o weithgareddau cymdeithasol er mwyn ymarfer y Gymraeg a chael blas ar fywyd a diwylliant ardal Aberystwyth. Mae’r rhaglen yn cynnwys noson i groesawu dysgwyr yn Eglwys y Santes Fair ar 4 Awst, taith i Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar 6 Awst, a gweithdy cerdded Nordig ar 13 Awst. Cynhelir noson lawen fawr am 7 o'r gloch nos Fercher 24 Awst yng Ngwesty'r Marine, gyda Côr CYD Aberystwyth, Parti Dawns Aelwyd Aberystwyth, a thwmpath gydag Erwyd Howells.
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru'n darparu rhaglen lawn o dros 200 o gyrsiau ar bob lefel drwy'r flwyddyn yng Ngheredigion, Meirionnydd a Phowys. Ceir rhagor o fanylion ar wefan y Ganolfan: www.dysgucymraegynycanolbarth.org neu drwy ffonio 0800 876 6975.
AU18911