Adeiladu cysylltiadau MBA yn Tsieina
Ch i’r Dde: Yr Athro Steve McGuire o Ysgol Rheolaeth a Busnes Aberystwyth, Yuhuan Zhao, Xia Yu, Jinfu Zhu a Xueping Ji o Sefydliad Technoleg Beijing, a Ian Thomas, Cyfarwyddwr Rhaglenni Olraddedig a Datblygiad Rhyngwladol Ysgol Reolaeth a Busnes Aberystwyth.
20 Gorffennaf 2011
Mae tri ar ddeg o fyfyrwyr a dau aelod staff o Sefydliad Technoleg Beijing yn ymweld ag Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth yr wythnos hon fel rhan o gynllun peilot i gynnig dimensiwn rhyngwladol ehangach ar y rhaglenni Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) yn y ddau sefydliad.
Bu Ian Thomas, Cyfarwyddwr Rhaglenni Olraddedig a Datblygiad Rhyngwladol Ysgol Reolaeth a Busnes Aberystwyth yn datblygu’r cynllun ar y cyd gyda Meng Fanchen, Deon Cynorthwyol Sefydliad Technoleg Beijing.
“Datblygodd y syniad yn dilyn cyfarfod ar hap yn Tsieina”, dywedodd Ian. “Yn ystod trafodaethau daeth yn amlwg yn fuan iawn ein bod yn rhannu’r awydd i ehangu elfennau rhyngwladol myfyrwyr MBA o safbwynt profiadau a chynnwys y cyrsiau yn y ddau sefydliad, ac y dylwn gadw mewn cysylltiad er mwyn trio adnabod ffyrdd addas o gydweithio a hwyluso hyn.”
Yn Ebrill 2011 bu Ian yn ymweld â Sefydliad Technoleg Beijing ac yn cyfarfod gydag aelodau staff yno, ymweliad arweiniodd at ddatblygu’r ymweliad astudio a diwylliannol mae’r staff a myfyrwyr o Sefydliad Technoleg Beijing yn ei fwynhau ar hyn o bryd.
Mae’r rhaglen yn cynnwys tri diwrnod o ddarlithoedd a gweithdai ar Arweinyddiaeth a Rheolaeth Ryngwladol yma yn Aberystwyth sydd yn cael eu harwain gan staff o’r Ysgol Reolaeth a Busnes, gan gynnwys yr Athro Steve McGuire, Dr Andrew St George a Dr Anita Rogers. Yn dilyn hyn byddant yn teithio i Lundain lle y byddant yn treulio dau ddiwrnod yn mynychu cyfres o ddarlithoedd gydag ymarferwyr busnes blaenllaw yn Somerset House.
“Mae ymateb y myfyrwyr a’r staff yn galonogol iawn”, dywedodd Ian, “Maent yn cael amser wrth eu bodd ac yn mwynhau’r profiad o dreulio amser yma yn Aberystwyth, yn gymdeithasol ac yn academaidd, profiad sydd yn ychwanegu dimensiwn rhyngwladol i’w hastudiaethau MBA.”
Ychwanegodd Ian: “Rwy’n mawr obeithio y bydd hon yn datblygu i fod yn rhaglen gyfnewid gyson fydd yn ychwanegu at y teithiau astudio sydd eisoes yn cael eu cynnig ar y cwrs MBA yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes i Hammonds a Thŷ’r Arglwyddi yn Llundain, ac i Erlangen yn yr Almaen. Mae trafodaethau pellach yn cael eu cynnal ar sut i ehangu’r cydweithio i gynnwys agweddau o ddysgu ac ymchwil mewn pynciau eraill.”
Tra’n son am eu profiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth dywedodd yr Athro Yuhuan Zhao o Sefydliad Technoleg Beijing: “Mae hwn wedi bod yn brofiad hyfryd. Mae hwn yn le hardd a’r bobl mor gyfeillgar, mae’n le delfrydol i astudio. Mae’r dysgu wedi bod yn ysbrydoledig ac o safon uchel iawn, ac wedi darparu mewnwelediad eang i faterion yn ymwneud â rheolaeth ryngwladol. Mae’r myfyrwyr i gyd yn hapus iawn gyda'r profiad ac mae pob un ohonynt yn dweud y byddant yn argymell i ffrindiau a theulu eu bod yn dod yma i astudio yn y dyfodol.”
Dywedodd Lu Ji Qiang, un o’r myfyrwyr o Sefydliad Technoleg Beijing sydd ar y cwrs:"Eisoes mae Aberystwyth yn teimlo fel cartref i ni. Rydym i gyd yn awyddus i ddychwelyd cyn gynted ag y gallwn! Mae’n lleoliad mor brydferth. Mae’r wybodaeth a’r dysgu o safon uwch wedi dangos i ni ffordd newydd o feddwl."
Cyrhaeddodd criw Sefydliad Technoleg Beijing Aberystwyth ddydd Sul 17eg Gorffennaf a byddant yn dychwelyd i Tsieina ar ddydd Sadwrn 23ain Gorffennaf.
AU17911