Penodi Gideon Koppel yn Athro Ffilm
Yr Athro Gideon Koppel
18 Gorffennaf 2011
Mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi penodi’r gwneuthurwr ffilmiau a’r artist nodedig, Gideon Koppel, yn Athro Ffilm. Bydd Koppel, sydd hefyd yn Gymrawd Cysylltiol o Goleg Green Templeton, Prifysgol Rhydychen, yn cychwyn yn ei swydd newydd yn yr Adran ym mis Medi 2011.
Mae diddordebau ymchwil yr Athro Koppel yn gorwedd ar y ffin niwlog rhwng ffilmiau dogfen a chelfyddyd gain. Ei ffocws yn yr Adran fydd datblygu’r cyfryngau creadigol ymhellach, yn arbennig creu ffilmiau dogfen gydag israddedigion ac uwchraddedigion.
Dywedodd Dr Jamie Medhurst, Pennaeth Adran Dros Dro yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: “Mae Gideon yn dod â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth ryfeddol o’r diwydiant ffilm, a’r broses o wneud ffilmiau yn benodol. Rydym yn gosod pwyslais mawr ar arloesedd yn ein hadran, ac rwy’n hyderus y bydd penodiad Gideon yn gaffaeliad amhrisiadwy i’n myfyrwyr a’r adran yn gyffredinol.”
Cyn hyn bu’r Artho Koppel, a raddiodd o Goleg Cyfathrebu Llundain ac Ysgol Celfyddyd Gain Slade, yn Arweinydd Cwrs yr MA Documentary by Practice yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae ei waith toreithiog fel gwneuthurwr ffilmiau ac artist wedi cael ei ddarlledu’n rhyngwladol a’i arddangos mewn orielau yn fyd-eang, o Amgueddfa Celfyddyd Fodern Efrog Newydd i’r Tate Modern yn Llundain. Enwebwyd ei ffilm ddiweddaraf, sef Sleep Furiously, sy’n cynnwys trac sain gan Aphex Twin, am wobr Golden Leopard yng Nghwyl Ffilmiau Ryngwladol Locarno 2008, ac aeth ymlaen i fod yn un o ffilmiau Prydeinig mwyaf llwyddiannus y flwyddyn, gan ennill gwobr y Guardian First Feature Film Award yn 2008.
Wrth sôn am ei swydd newydd, dywedodd Mr Koppel: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr her newydd hon, ac yn enwedig at gael gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau yng Nghymru. Mae gan Brifysgol Aberystwyth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu sefydledig ac uchel ei pharch, ac rwyf wrth fy modd cael bod yn rhan ohoni.”
AU17411