Strwythur Prifysgolion yng Nghymru yn y Dyfodol
Prifysgol Aberystwyth
13 Gorffennaf 2011
Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad Future Structure of Universities in Wales gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn edrych ymlaen at gyfrannu at y broses ymgynghori a fydd yn deillio ohono. Rydym hefyd yn croesawu cyhoeddiad Addysg Uwch Cymru ar yr 2il o Orffennaf 2011.
Mae’r cynigion yn cynnwys cynlluniau i gryfhau ymhellach y berthynas rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor a Glyndŵr. Bydd rhain yn cael eu hystyried yn fanwl yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae Prifysgol Aberystwyth eisoes yn cydweithio’n llwyddiannus iawn gyda Phrifysgol Bangor, yr hyn a adwaenwyd yn wreiddiol fel Partneriaeth Ymchwil a Menter Aberystwyth / Bangor, ac rydym yn falch o weld bod hyn yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru.
Mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi dechrau eisoes ar broses o gryfhau’r bartneriaeth, tra’n dal gafael ar eu hunaniaeth unigol.
Mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi gosod uchelgais glir i’r Brifysgol – byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaethau, yn arbennig gyda Bangor, a chyda sefydliadau eraill, HEFCW a Llywodraeth Cymru i lunio dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i Brifysgol Aberystwyth ac i Addysg Uwch yng Nghymru.